大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ysgol Gynradd Teilo Sant Dathlu hanner canmlwyddiant addysg Gymraeg
Ebrill 2009
Dathlu hanner canmlwyddiant addysg Gymraeg

Hanner can mlynedd yn 么l cychwynnwyd ar addysg gynradd Gymraeg yn Llandeilo. I ddathlu'r achlysur fe wnaeth disgyblion ac athrawon Ysgol Gymraeg Teilo Sant lwyfannu perfformiad o sioe gerdd wreiddiol "Pen-blwydd Hapus".

Mewn tri pherfformiad gwefreiddiodd y disgyblion y gynulleidfa gan fynd n么l dros hanes y brwydro a'r sefydlu.

Yn rhan o'r noson, roedd yna arddangosfa o hen luniau o'r ysgol gyda chopiau o lyfr cofnodion a'r adroddiadau fu yn y papurau bryd hynny. Mae'r lluniau a lle i rannu atgofion ar wefan yr Ysgol - sef www.teilosant.amdro.org.uk

Atgofion Eleri

Pleser pur i mi oedd addysg ar ol dechrau yn y Ffrwd Gymraeg, fel y'i gelwid y pryd hwnnw, yn enwedig o brofi dirmyg gan nad oeddwn yn medru'r Saesneg (gan athrawon nid plant) yn y flwyddyn a dreuliais yn yr ysgol gynradd.

Er bod yr adeilad yn hollol noeth oni bai am ddesgiau ac un bwrdd athrawes a than glo, cyffrous oedd yr ymdeimlad wrth gerdded i mewn trwy'r drws. Roedd wyth ohonom - David Booth, Mansel Thomas, Peter Purcevall, Elizabeth Jones, Patricia Mulligan, Theresa Davies a minnau, a rhyfeddaf o hyd at ddewrder rhai o'r rhieni nad oedd ganddynt ddim Cymraeg am wneud y llam hwn mewn ffydd. Cyn diwedd y flwyddyn ysgol roedd nifer o rai eraill wedi ymuno gyda ni, Nano Booth, Maria Evans, Angela Rees, Michael Williams, Hywel Williams, Eleri Thomas yn eu plith. Ar y cychwyn nid oedd yno unrhyw adnoddau! Creodd Miss Mary Davies (Mrs Roberts erbyn hyn wrth gwrs) bosteri o'r Wyddor ac ati i'w gosod ar y muriau a daeth 芒 llyfrau plant oedd ganddi gartref i lanw rhai o'r silffoedd gwag. O dipyn i beth fe gafwyd mwy o deganau a llyfrau a chyfarpar and cofiaf yn iawn i'r ddwy athrawes (roedd Mrs Rachel Arnold wedi dod atom erbyn hyn oherwydd y cynnydd yn y nifer) fod yn gandryll am nad oeddent wedi derbyn popeth a ofynnwyd amdano.

Deuai'r stof fawr yn handi yn y gaeaf oherwydd tra'n bod ni allan yn chwarae yn ein rhan ni o'r iard eisteddai Miss Davies wrthi yn gweu. Byddai diddordeb mawr gan y merched i weld beth fyddai'r dilledyn! Hefyd, pan fyddai'r llaeth a gaem bob amser chwarae yn rhewi yn y poteli byddai modd ei ddadmer ar y stof. Nid yw yfed llaeth wedi apelio ataf byth oddi ar hynny. Byddai dydd Gwener yn fwrn a phleser i mi. Yn y bore caem brawf syms a phrawf sillafu and yn y prynhawn byddai'n amser stori ac, yn ddiweddarach, yn amser gwrando ar y radio - pan oedd hwnnw'n gweithio! Byddai'n rhaid tapio'r gwifrau at ei gilydd nes bod sparcs yn hedfan gyntaf ac yna fe gaem raglen Gymraeg i ysgolion.

Cafwyd eisteddfod Gwyl Dewi un flwyddyn hefyd ac er nad oedd ond 25 ohonom cawsom raglen lawn.

O dipyn i beth, cynyddodd y rhifau a daeth Mrs Arnold atom. Gyda dwy athrawes mor ymroddedig roedd pethau yn siwr o lwyddo. Un haf aethom am drip i Bontypridd i weld cartref awduron Hen Wlad Fy Nhadau a galw yn y farchnad agored yr un pryd. Cawsom bob cyfle yr oedd modd iddynt ei roi i ni. Cyfeirient atom bob amser fel "ein plant ni" a doeddem ni ddim i fod i gael unrhyw gam. Mawr yw fy nyled iddynt am greu awyrgylch gartrefol, er bod eu disgwyliadau ohonom yn uchel yn enwedig o gofio fod cymaint o bobl yn gobeithio y byddai'r arbrawf yn fethiant!

Erbyn hyn mae'r fesen fach wedi tyfu'n dderwen. Hir y byddo'n ffrwytho eto.

Eleri Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy