Pam? Am mai dyma'r diwrnod cyntaf o'i hymddeoliad. Wedi 34 mlynedd o weithio yng Ngholeg Gelli Aur, mae'r amser wedi dod i ddiosg ei ffedog. Ers iddi adael yr ysgol yn 15 oed, mae Dawn wedi gweithio yno ar wah芒n i rhyw gyfnod o tua deg mlynedd ar ddiwedd y 60au a'r 70au, i gael magu ei theulu.
Ar y dechrau, glanhau a gweini bwyd oedd ei dyletswyddau, ond yn 1965 cymerodd arni y ddyletswydd o goginio. Yn rhyfedd iawn, fe aned Dawn adeg yr eira mawr yn 1947 mewn bwthyn ar Fferm y Coleg lle nawr saif y ffreutur a'r gegin ble mae wedi bod yn gweithio ers i'r Coleg symud o'r hen blas i'r safle presennol ar y fferm.
Newidiadau
Gwelodd newidiadau mawr ers iddi ddechrau gweithio yn y coleg. Roedd y gwaith llawer mwy caled pryd hynny. Dywedodd Dawn
"Dwy Aga glo oedd gennym yn y gegin yn wreiddiol, ac ambell waith, byddai'n anodd cael y ffwrn i dwymo pan oedd y gwynt o rhyw gyfeiriad arbennig. Yna daeth st么f nwy, gan wneud bywyd tipyn yn haws. Ond bu'n rhaid sgrwbio lloriau cerrig y plas bob dydd. Pryd hynny roedd yr ystafelloedd yn cysgu tua 6 neu 8 o fyfyrwyr, a byddent yn gorfod gwisgo crys a thei i ddod i swper bob nos." Erbyn hyn, mae ganddynt ystafell yr un. Mae'r wisg yn anffurfiol, ac maent yn cael dewis cymharol eang ar y fwydlen. Blynydde n么l dim ond dau ddewis oedd - bwyta fe neu peidio! Byddai'r myfyrwyr yn cael pedwar pryd y dydd, ond erbyn hyn dim ond tri phryd maent yn cael."
Pan dechreuodd Dawn, roedd deg aelod o staff yn gweithio yn y gegin, ond erbyn heddiw dim ond pump sydd. Maent yn griw sydd wedi gweithio'n dda gyda'i gilydd. Ac mae gan ei chyd-weithwyr feddwl uchel iawn ohoni. Nid yn unig staff y gegin, ond aelodau eraill o'r staff hefyd.
Meddai Lyn Richards, sydd wedi bod yn ddarlithydd yn y Coleg ers 1994, " Mae Dawn yn gymeriad annwyl iawn, a bydd hi'n chwith iawn hebddi. Does dim neb yn medru bod yn rhan o'r coleg am gymaint o flynyddoedd heb ddod yn rhan o'r lle, ac mae Dawn wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at y naws deuluol, gartrefol, naturiol Gymreig sydd yn bodoli yma. Mae ganddi ffordd di-ffwdan gyda'r myfyrwyr, ond mae'n ffrind iddynt bob un a chanddi w锚n a gair o groeso bob amser."
Bydd Lyn Richards yn gweld eisie cyris Dawn yn enwedig, a'i mins peis adeg y cyngerdd Nadolig ond yn fwy na dim falle, y tynnu coes diniwed.
Ers pedair blynedd bellach, mae'r coleg wedi ei ail-leoli lawr ar y fferm, ac mae pob cyfleuster modern y gallech feddwl amdano yno. Felly hefyd ar y fferm - fe fu hyd yn oed robot yno'n godro. Ond hyd yma, does neb wedi dod o hyd i'r un robot allai gymryd lle Dawn!
|