大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

J. Eirian Davies Cofio Cawr - J. Eirian Davies
Mai 2004
Cofio'r Parch J. Eirian Davies wrth ddadorchuddio cofeb iddo yng nghapel MC, Nantgaredig.
Ganwyd James Eirian Davies yn blentyn ieuengaf teulu llengar Y Llain, Nantgaredig ar 28 Mai 1918.

Y drasiedi o golli ei frawd Emrys yn ei arddegau, tra roedd y ddau yn nofio yn afon Tywi a arweiniodd Eirian Davies rai blynyddoedd yn ddiweddarach i fynd i'r weinidogaeth. Aeth i Goleg Trefeca ac yna i Goleg y Brifysgol, Abertawe. Tra yn y Coleg enillodd gadair a choron yr Eisteddfod Ryng-golegol ddwy waith. Parhaodd 芒'i hyfforddiant yng Ngholeg Diwinyddol Aberystwyth.

Bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym Methel, Hirwaun; Morea, Brynaman cyn symud i Fethesda'r Wyddgrug. Roedd yn bregethwr arbennig a'i wreiddioldeb yn golygu bod pob un yn deall ei neges. Er iddo wisgo'n llachar yn y dyddiau cynnar, ei lais cyfareddol cynnes sy'n aros yng nghof y gynulleidfa.

Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth "Awen y Wawr" yn 1947 yn ystod ei ddyddiau coleg. Fe'i dilynwyd gan bedair cyfrol arall o farddoniaeth: - "C芒n Galed", "Cyfrol o Gerddi", "Darnau Difyr" (cyfrol i blant) ac "Awen yr Hwyr". Cyfrol o ddeunydd ar gyfer eglwysi oedd "At eich Gwasanaeth".

Priododd 芒 Jennie, merch fferm "Llandre", Llanpumsaint, a'r ddau yn cydweithio yn hwylus yn yr eglwysi ac Eirian am gyfnod yn cynorthwyo ei wraig i gyd-olygu'r Faner. Ganwyd iddynt ddau o blant, Si么n a Guto. G诺r addfwyn heddychlon oedd Eirian. Mae'r rhan fwyaf o'i gerddi yn ymdrin 芒 chyflwr crefydd, yr iaith, y genedl ac heddychiaeth.

Wedi dychwelyd i Sir G芒r, parhaodd i bregethu yn achlysurol, darlledu ar y radio ac ysgrifennu'r golofn hynod o ddiddorol "Gair neu Ddau" yn y Western Mail. Bu farw dydd Sul, 5 Gorffennaf 1998. Yn 么l ei ddymuniad gwasgarwyd ei lwch yn afon Tywi, yn y fan lle boddwyd Emrys.

Yng ngeiriau ei gyfaill agos Gwyn Erfyl:- "Pan fu farw Eirian, fe gollodd Cymru fymryn o'i lliw". Ar nos Wener, 7 Mai dadorchuddiwyd cofeb iddo yng nghapel MC Nantgaredig am 7.00 o'r gloch.

Elonwy Phillips


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy