Wrth i ni ddathlu llwyddiant ein papur bro ar ddiwedd blwyddyn fel hyn, gallwn edrych ymlaen at bennod gyffrous a newydd yn ei hanes pan y bydd yn cael ei ail-lansio ar ei newydd wedd yn y flwyddyn newydd.Ond cyn edrych mlaen, cymerwn funud i edrych n么l ar rai o gerrig milltir Y Lloffwr yn y gorffennol ers iddo gael ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn Nhachwedd 1978.
Dr Gwynfor Evans, oedd yn byw ger Llangadog ar y pryd, a gydnabyddir fel y prif lais dros sefydlu'r papur bro hwn yn y lle cyntaf. Roedd yntau'n dymuno gweld cynnydd yn y Gymraeg roedd trigolion Bro Dinefwr yn ei ddarllen, er mwyn cynnal iaith a chyfoeth diwylliant Cymru. Fe wnaeth ei ysgogiad arwain at gyfarfod a gynhaliwyd gan griw brwdfrydig yn Neuadd Llanwrda, a chyn pen dim roedd swyddogion y papur bro newydd yn eu lle - John Jenkins yn Olygydd a'r Parchedig R Gwynedd Jones yn Is-Olygydd.
Fe benodwyd Bob Roberts yn Gadeirydd, Dafydd Ifans yn Ysgrifennydd a Heulwen Jones yn deipydd i'r papur ac ymhen rhai misoedd, cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o bapur bro Y Lloffwr ym mis Tachwedd 1978. I ddathlu cyhoeddi'r rhifyn cyntaf, cyhoeddwyd englyn arbennig gan W Leslie Richards er mwyn croesawu dyfodiad y papur bro newydd:
Hir oes foed i hwn a chroeso- helaeth
Ar aelwyd pob Cymro;
Ein nodded rhoddwn iddo -
Hwre brwd i'n papur bro!
Roedd amrywiaeth o erthyglau diddorol yn y rhifyn cyntaf hwnnw gan gynnwys erthygl am Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ar y dudalen flaen. O fewn y cloriau cafwyd colofn Pop Pop, Colofn y Dysgwyr, Colofn Llyfrau, Cornel y Naturiaethwyr, Tudalen y Plant, Tudalen y Merched a cholofn Byd Chwaraeon, yn ogystal 芒 thudalennau o newyddion bro ac erthyglau diddorol eraill. Hyd yn oed yn y dyddiau cynnar hyn roedd 16 o dudalennau yn Y Lloffwr a'r pris bryd hynny oedd 10c!
Degawd yn ddiweddarach, ym mis Rhagfyr 1988, cyhoeddwyd y canfed rhifyn ac roedd y papur wedi tyfu i fod yn ugain tudalen o hyd. Y brif stori ar dudalen flaen y rhifyn arbennig hwn oedd erthygl am y ffilm Smithfield oedd wedi cythruddo mudiad y Ffermwyr Ifanc yn Sir G芒r. Handel Jones oedd Golygydd y papur erbyn hyn a Mansel Charles yn Gadeirydd. Roedd nifer o'r rheini oedd yn gyfrifol am sefydlu'r papur ym 1978 yn dal i fod 芒 chysylltiad cryf ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ac yn rhan annatod o'i ddatblygiad parhaol.
Fe ddaeth Y Lloffwr iw oed yn 21 ym 1999, ac i ddathlu'r achlysur hwn fe gyhoeddwyd casgliad o rhai o'r straeon mwyaf diddorol a ymddangosodd yn y 200 o rifynnau ers 1978. O dan oruchwyliaeth Bob Roberts, cyhoeddwyd Lloffion y Lloffwr oedd yn gofnod gwerthfawr o'r amrywiaeth eang o straeon a gafodd sylw yn nhudalennau Y Lloffwr dros y 21 mlynedd ddiwethaf.
Yn erthyglau, penillion, cyfweliadau a straeon, roedd y llyfryn bach hwn yn adlewyrchiad teg o bobol a bywyd ym Mro Dinefwr.
Erbyn hyn, dyma ni wedi cyrraedd carreg filltir nodedig iawn yn hanes ein papur bro wrth i'r Lloffwr ddathlu Chwarter Canrif o ledaenu gwybodaeth ar draws yr ardal a diddori'r darllenwyr. Llongyfarchiadau calonnog i'r Lloffwr ac i bawb sydd wedi ychwanegu at ei lwyddiant dros y 25 mlynedd ddiwethaf, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at Chwarter Canrif arall a mwy o wasanaethu'r ardal ai phobol yn y dyfodol.
gan Aled Vaughan
Prosiect Papurau Bro
Cyfarchion i'r Lloffwr
"Mae'n anodd credu bod Y Lloffwr bellach yn dathlu 25 mlynedd o lwyddiant o greu a chofnodi hanes yr ardal. Mae ein diolch yn fawr i Gwynfor yn y lle cyntaf am ein ysgogi i fynd ati i gychwyn y papur ac hefyd i'r llu o bobol ers y dyddiau cynnar hynny sydd wedi gwneud yn siwr ei fod wedi parhau. Gobeithio y bydd y dyfodol yr un mor llwyddiannus. Pob dymuniad da i'r pum mlynedd ar hugain nesaf."
Bob Roberts
"Y mae cyfraniad Y Lloffwr i Fro Dinefwr yn un arbennig iawn. Y mae wedi sicrhau bod llu o bobol nad arferai ddarllen Cymraeg yn gwneud hynny'n gyson. Sicrhaodd hefyd bod nifer o bynciau pwysig yn cael eu dadlenni au trafod gan y cyhoedd. Boed i ddylanwad creadigol y papur barhau am ddegawdau i'r dyfodol, a diolch i'r gwirfoddolwyr am gyflawni gwaith ardderchog."
Dr Gwynfor Evans
Y Lloffwr
Blas yd o gae y cynhaea - a gwres
Ei grasu sydd yma;
Byw o eiriau yw bara
Toreth dwym y torthau da.
Cyngh. Eirwyn Williams