大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Con Passionate Sgwrs gydag awdur Con Passionate
Mehefin 2006
Adolygiad o ail gyfres Con Passionate ar S4C a sgwrs gyda'r awdures Siwan Jones o Ddryslwyn.
Mae'r ail gyfres o Con Passionate newydd ddod i ben ar S4C ar hyn o bryd ac wedi mwynhau llwyddiant mawr.

Yn ddiweddar, enwebwyd y gyfres ddrama hynod am sawl gwobr BAFTA ac mae gennym le i ymfalch茂o yma ym Mro Dinefwr oherwydd daw'r awdures dalentog Siwan Jones o bentref Dryslwyn, tra bod y prif gymeriad Davina (Sh芒n Cothi) hefyd yn hanu o bentref Ffarmers.

Yn y gyfres hon ymunodd bachgen ifanc arall o'r ardal 芒'r cast - sef Si么n Ifan sy'n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin ac rwy'n si诺r y bydd yntau'n enw i'w wylio i'r dyfodol.

Mae'r gyfres yn ddiau wedi mynd o nerth i nerth a dyw nos Sul bellach ddim yr un peth heb y golygfeydd dychmygol a'r ddeialog anfarwol. Yn wir, mae'r gyfres yn gyfanwaith hyfryd o gyfarwyddo ysbrydoledig (o'r delweddau llawn dychymyg i'r defnydd clyfar o gerddoriaeth); perfformiadau penigamp a chastio cryf ynghyd 芒 sgript afaelgar byddai'n fodd i fyw i unrhyw actor. Ches i mo fy nghyffroi cymaint gan ddrama deledu ers gwylio dram芒u Dennis Potter, fel 'The Singing Ditective' flynyddoedd yn 么l.

Yn wir, hawdd cymharu Con Passionate 芒 gwaith Potter, o ran yr 么l-fflachiadau dychmygol a'r elfen o ganu ond yr hyn sy'n wych am gyfres y dramodydd o Ddryslwyn yw ei bod yn ymwneud 芒 thema wirioneddol Gymreig - sef C么r Meibion ac eto'n mynd ati i chwalu'r holl ystrydebau yn yfflon rhacs! Wedi'r cyfan, lle welsoch chi erioed g么r meibion a'u partneriaid a bywydau mor gymhleth a chyffrous 芒 hyn? Mae'n hyfryd gweld y cymeriadau yn tyfu'n fwy eithafol dan chwyddwydr yr awdures.

Roeddwn yn edrych ymlaen at antics nesaf Andy gyda'r pysgodyn ffug, y mochyn T.T. a'r cerbyd gwersylla, am ymweliad nesaf Eurof 芒 byd ffantas茂ol ei nofel lle mae'n dial ar bennaeth yr Adran Gymraeg a'n syrthio mewn cariad 芒 Lara ac at helyntion nesaf y 'desperate wives', nawddoglyd Llinos a Judith. Yn anad dim, roeddwn yn edrych ymlaen hefyd at olygfeydd ffantas茂ol y c么r yn null y sioeau cerdd Hollywood gorau. Roedd gweld y golygfeydd diweddar yn y neuadd bingo gyda'r tenor Aled Hall a'r golygfeydd yn y balwn aer yn canu 'Brenin y S锚r' gyda Sh芒n Cothi yn eli i'r galon!

Ond fel pob cyfres ddrama gwerth ei halen, mae yma olygfeydd llai doniol, sy'n gwneud i ni deimlo'n eithaf anghyfforddus. Mae gweld Helen y wraig feddw yn troi at y botel heb fawr o neb yn sylwi arni a deuoliaeth ei gwr yn ei churo yn y cartref ac yn ymddangos yn hollol normal o flaen bois y c么r yn dod a ni n么l i fyd realiti reit ddu ac anesmwyth. Does ryfedd bod pawb am ddianc i fyd y dychymyg! Heb amheuaeth, mae sg么p ar gyfer sawl cyfres arall yma. Mae'r posibiliadau yn ddiddiwedd!

Rwy'n dyheu am weld Glesni yn diosg ei dillad llwyd a'n gwneud safiad neu'n gwneud rhywbeth mentrus a hoffwn weld Irfon y deintydd ffraeth yn byw- fel bod modd i holl ferched y gyfres ddial arno mewn gwisgoedd gorila!

Os oes angen prawf o lwyddiant y gyfres hon does dim angen edrych ymhellach na'r brwdfrydedd heintus o du'r cyhoedd wrth s么n amdani. Yn dilyn ein hymarfer c么r merched ni yn ddiweddar roedd 'na chwerthin mawr wrth gofio rhai o linellau bachog y ddeialog a'r scenarios trwstan a bu dadansoddi mawr ar y rhaglen ddiwethaf, gyda phawb yn s么n am y cymeriadau wrth eu henwau a'n ceisio dyfalu a oedden nhw'n nabod rhai ohonyn nhw'n go iawn. Galwch fi'n baranoid, ond rwy wedi bod yn amau ers peth amser mod i'n byw gyda dyn sy'n dweud pethau eithaf tebyg i Glyn. Cyd卢ddigwyddiad yw e' bod y g诺r yn ysgrifennydd c么r meibion lleol, ynte? Ond plis, plis rhowch wybod i mi os bydda i'n dechrau ymddwyn a gwisgo fel Glesni!!!

MVJ

Aeth Y Lloffwr at Siwan Jones i holi am ei gwaith ac am lwyddiant ysgubol y gyfres:

O ble daeth yr ysbrydoliaeth i ysgrifennu Con Passionate?
Pobl, newyddion, stor茂au, clecs, cymhellion y cymeriad, bywyd yn gyffredinol, Bois y Castell ac Atsain.

Ydi'r c么r yn seiliedig ar unrhyw gorau lleol?
Mae pob stori a phob cymeriad yn y gyfres yn seiliedig ar Fois y Castell !!!!! C么r Meibion Gwili yw Bois y Castell. (J么c)

Oedd e'n haws i ysgrifennu'r ail gyfres gan fod y rhan fwyaf o'r cymeriadau eisoes wedi eu sefydlu?
I ryw raddau roedd e'n haws gan fod y cymeriadau bellach yn gig a chnawd a'r arddull wedi'i sefydlu. Ond roedd e'n anos hefyd wrth geisio cadw ffresni ac egni'r gyfres gyntaf.

Oherwydd natur ffantas茂ol Con Passionate ydych chi'n cael sylwuadau rhyfedd gan wylwyr am y gyfres?
Gan mod i'n berson swil, addfwyn a thawel mae sawl un yn gofyn o ble dwi'n cael y syniadau. Mae ambell ffrind hefyd yn becso'n fawr am beth sy'n mynd ymlaen yn fy mhen i.

Pa un o'r holl gymeriadau brith yw eich hoff un chi i'w ysgrifennu?
A dweud y gwir mae pob un o'r cymeriadau yn bwysig i fi hyd yn oed y rhai dibwys. Ond rhaid cyfadde mod i'n cael lot o sbort yn ysgrifennu Judith ac Andy, Glyn ac Eurof.

Pryd mae'r gyfres nesaf?
Wrthi'n trafod y posibilrwydd ar hyn o bryd. Gyda'r ail gyfres wedi dirwyn i ben, dwi yn teimlo falle bod na le am un arall cyn i fi golli'r plot yn llwyr a gollwng pob gafael ar yr ychydig o synnwyr sy' da fi ar 么 rhwng fy nghlustiau.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy