Cofiwn yn annwyl am grefftwr dawnus a hynaws, y diweddar Dennis Edwards (1920-2005) o Langadog. Cyhoeddwyd portread o'r cymeriad amryddawn yn Llafar Gwlad, Rhif 59, Gwanwyn 1998, a phleser yw cynnwys yn Y Lloffwr ran o'r portread hwnnw yn gof amdano.
Ddiwedd haf 1920, roedd tristwch llethol yn Gwestfa, t欧 urddasol a safai yng nghanol Maenordeilo, Sir Gaerfyrddin. Mewn ystafell wely, roedd y meddyg yn brwydro i achub bywyd mam a oedd wedi dioddef genedigaeth anodd.
Er gwaetha'r argyfwng, llwyddodd y rhai a oedd yn yr ystafell i gytuno ar enwau i'r bychan druan. Cafodd yr enw Alfred ar 么l brawd ei fam, a laddwyd yn yr Aifft yn y Rhyfel Byd Cyntaf. A mynnodd gwraig o'r enw Mrs Ding, athrawes mewn ysgol breswyl leol lle gweithiai'r fam fel cogyddes, y dylai'r baban rannu enw 芒'i mab Dennis.
Roedd ei fam, Margaret, yn ferch i Dafydd Lloyd, y gof ym Maenordeilo, a'i dad, David Tom, yr hynaf o bymtheg o blant, yn fab i gipar o'r Yst芒d Dolau Cothi yn ardal Cwrtycadno. Doedd David Tom ddim eisiau gweithio ar y tir, ac aeth i Gastellnewydd Emlyn i ddysgu i fod yn grydd.
Yna, cafodd gyfle i weithio fel improver, hynny yw, perffeithio crefft ar ddiwedd prentisiaeth. Ei gyflogwr newydd oedd Rhys Thomas, Cymro Cymraeg o Gaerdydd, a oedd wedi codi gweithdy a siop yn Llangadog, Gwnaeth David Tom argraff dda, a chymerodd y fusnes drosodd yn 1920.
Aeth Dennis Edwards i weithio gyda'i dad yn syth ar 么l gadael Ysgol Llangadog yn 14 oed. Dilynodd Dennis ei dad i sawl cyfeiriad - i'r Lluoedd Arfog, i'r s锚t fawr yng Nghapel y Methodistiaid, ac i fod yn athro Ysgol Sul, yn ogystal ag i siop y crydd,Yng nghyfnod ei dad, esgidiau'r wlad - esgidiau hoelion i ffermwyr a gweision - oedd yn cael eu gwneud a'u trwsio yn Llangadog, "Roedd y sgidie hoelion yn gorfod dal d诺r. Cip, sef y lledr mwyaf trwchus a chaled, oedd yn cael ei ddefnyddio, gyda bloneg mochyn i'w gadw'n sych. Byddai'r rhan fwyaf o'r lledr yn dod o danerdy yn Rhaeadr Gwy (sydd bellach yn Sain Ffagan). Roedden ni'n cael y lledr fesul bend, sef ochr gyfan creadur, Ond roedden ni hefyd yn defnyddio lledr wedi cael ei wneud o'r gwt, y bochau. y bol a'r tafod," meddai.
"...Wedi'r Ail Ryfel Byd y daeth y wellingtons, a nhw wnaeth y gwahaniaeth mwya' i'r gwaith yn y gweithdy. Roedd digon o waith o hyd, dim ond ei fod wedi newid. Oe'n ni'n riparowellingtons hefyd - gyda chlytiau rwber i ddechrau, a nawr plastig. Mae'r gwaith yn newid fel mae'r esgid neu'r wellington yn newid."
Canolbwynt y gweithdy bach yw hen fainc yn llawn droriau i gadw hoelion, a llwyfan pren o'i blaen i ddal darnau o ledr sy'n cwympo. Mae yna feinciau isel, hefyd, pob un 芒 dr么r, a ffwrwm ar un pen. Mae Dennis wedi cyflwyno un i'r amgueddfa yn Sain Ffagan.
Ymhlith y peiriannau, mae peiriant rholio lledr a wnaed yn yr Almaen o gynllun Prydeinig. Roedd hwn yn un o'r peiriannau a ddefnyddiwyd gan Rhys Thomas, ac sy'n dal i weithio'nddi-ffael. Mae'n syndod faint o beiriannau ac arfau sydd yn y gweithdy bychan: dwsinau o barau o lastiau, pinsiyrnau, cyllyll, astell hogi, morthwyl unpen a morthwyl deupen.
Mae'r darnau o farddoniaeth sy'n papuro un o waliau'r gweithdy'n dystion i ddiddordeb mawr Dennis Edwards, Er ei fod yn rhy wylaidd i arddangos ei waith ei hun, g诺yr pobl y pentref - a thu hwnt - am ei ddawn. Mae hyd yn oed ei hysbysebion yn cynnwys ambell gwpled. Yn eu plith mae:
"Mae 'n wir mewn bedd mae llawer g诺r
Am fod ei sgidiau'n gollwng d诺r.
Ac
"Esgidiau gwerth eu gwisgo
Sydd hefyd werth eu trwsio."
Meddai Dennis, "Mae'r gweithdy'n fan cyfarfod i'r pentref - lle byddwn ni'n trafod pregethau, yn cael dadleuon gwleidyddol ac yn pwyso a mesur gemau rygbi. Nid bywoliaeth yw'r gwaith nawr, ond rhywbeth i'ng nghadw i rhag gwneud drygioni."
I orffen dyma englyn gan T. M.Thomas, Tirallen, Llanwrda.
"Hyd ei fainc ydyw ei fyd - ac o raen
Ei grefft caiff ddedwyddyd;
Taro fu trwy ei fywyd
I draed ein gwlad rodio'n glyd.
Cydymdeimlir yn ddifuant 芒 theulu Dennis Edwards yn eu colled.
Handel Jones.