Gyda'r haf ar droed a'r nosweithiau'n ymestyn fe fydd rhywbeth at ddant pawb yn ystod wythnos gyfan o weithgareddau yng Ng诺yl Menter Bro Dinefwr. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y cynllun peilot y llynedd, mae'r Fenter wedi penderfynu datblygu'r 糯yl eleni a bydd wythnos gyfan yn Ilawn bwrlwm i drigolion y fro. (Gwelir uchafbwyntiau'r llynedd yn y lluniau.) Agorir yr wythnos gyda Chymanfa Ganu ar nos Sul, 26 Mehefin yng Nghapel Newydd, Llandeilo pan fydd nifer o gorau lleol yn dod at ei gilydd mewn dathliad o leisiau'r ardal. Bydd Eleri Sion (sylwebydd chwaraeon 大象传媒 Cymru) yn arwain Cwis Chwaraeon ar nos Lun, 27 Mehefin yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri. Os mai barddoniaeth hwyliog sy'n mynd 芒'ch bryd, dewch i Neuadd Pumsaint ar nos Fawrth, 28 Mehefin i Stomp y Beirdd gyda Tudur Dylan Jones wrth y llyw.Fel rhan o'r 糯yl mae yna gyfle unigryw i weld a chlywed Dafydd Iwan yn sgwrsio a chanu yn Nhafarn Penybont, Llanfynydd ar nos Fercher, 29 Mehefin.Bydd Llew Davies gydag aelodau clybiau ffermwyr ifanc lleol ac artistiaid eraill yn ein diddanu mewn Noson Lawen yn Neuadd Llangadog ar nos Iau, 30 Mehefin.Uchafbwynt yr 糯yl fydd y penwythnos clo a fydd yn llawn o gerddoriaeth fyw ar fferm Glangwenlais, Cil-y-cwm. Ar nos Wener, 1 Gorffennaf bydd Bryn Fon a'r Band, Mattoidz, Quidest a Celsain yn perfformio a pheidiwch poeni am drefnu tacsi adref achos bydd cyfle i wersyllaar dir y fferm mewn lleoliad bendigedig, felly cofiwch ddod 芒'ch pabell neu garafan.Bydd y plant wrth eu bod ar brynhawn Sadwrn 2 Gorffennaf rhwng 3 a 5 o'r gloch gyda nifer o weithgareddau wedi eu trefnu ar eu cyfer yn cynnwys chwaraeon, castell bownsio a llawer o hwyl yng nghwmni Gwenda Owen a Superted! I gloi'r 糯yl ar y nos Sadwrn bydd noson i'w chofio yng nghwmni Mynediad am Ddim, Bob Delyn a'r Ebillion, Elin Fflur a'r Band a Gilespi i rhoi clo ar wledd o gerddoriaeth fyw.Bydd pob un o'r digwyddiadau nos yn dechrau am 7.30pm gyda'r ddwy noson olaf yn cychwyn am 8.00pm. Mae tipyn o ddiddordeb eisoes yn y gweithgareddau felly cofiwch brynu eich tocynnau ymlaen llaw i osgoi siom. Am fanylion pellach am y nosweithiau, prisau mynediad neu i archebu tocynnau cysylltwch 芒 ni yn y swyddfa. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ystod yr wvthnos. Manylion Cysylltu: Menter bro Dinefwr Swyddfeydd y Cyngor, Heol Cilgant, Llandeilo. SA19 6HW 01558 825336 menter@sirgar.gov.uk www.mentrau-iaith.com/dinefwr
|