´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plant Ysgol Gynradd Llansadwrn Ysgol Gynradd Llansadwrn
Awst / Medi 2009
Mae plant Ysgol Gynradd Llansadwrn wedi bod yn dathlu penblwydd yr ysgol yn 150 oed gyda noson gymdeithasol.

Cynhaliwyd noson gymdeithasol i ddathlu pen-blwydd Ysgol Llansadwrn yn 150 oed.

Er gwaetha'r tywydd, daeth nifer fawr o gyn-ddisgyblion a ffrindiau'r ysgol ynghyd i fwynhau barbeciw ac adloniant.

Trefnwyd arddangosfa ddiddorol o luniau a oedd yn olrhain hanes yr ysgol.

Derbyniwyd nifer o eitemau ar gyfer yr ocsiwn gan grefftwyr lleol, yn cynnwys print o lun gan Aneurin Jones, Aberteifi i nodi ei gysylltiad teuluol â'r ardal.

Cafwyd amrywiaeth o adloniant gan blant yr ysgol, cerddorion lleol ac uchafbwynt y noson oedd gwrando ar ddau emyn traddodiadol gan gyn-ddisgybl sef Lavinia Thomas, enillydd Rhuban Glas Eisteddfod Genedlaethol 1989.

Llywydd y noson oedd y Cynghorydd Tom Theophilus, a chafwyd araith gefnogol iawn ganddo.

Ar ddiwedd noson lwyddiannus dros ben, roedd coffrau'r ysgol wedi elwa o £1,450, swm a fydd yn gymorth mawr i sicrhau chwarae teg i bob plentyn o safbwynt adnoddau a chyfleoedd. Diolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd.

Ffarweliwyd â Gwenllian sydd yn trosglwyddo i Ysgol Pantycelyn, ac i Bron a Frances sydd yn mynd i Ysgol Tregib. Diolchwn iddynt am eu cyfraniad i fywyd Ysgol Llansadwrn, a dymunwn bob llwyddiant ac hapusrwydd iddynt yn y dyfodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý