Yr oedd yn fodd i fyddinoedd a brenhinoedd Lloegr dawelu cythrwfl o du'r Cymry yn ogystal â bod yn borth i dawelu Iwerddon yn ôl yr angen. Dyma brif ffordd Harri'r II i Iwerddon, Harri'r IV pan ddaeth i chwilio am Owain Glyndŵr ar fwy nag un achlysur, a'r ffordd y daeth Owain ei hun ar hyd iddi yn nechrau'r 15fed ganrif.
Ond efallai mai'r ymweliad a arhosodd yng nghof neu yn nychymyg y werin, oedd y daith honno gan Oliver Cromwell ym mis Mai 1648. Cromwell, wrth gwrs, oedd dirprwy gynrychiolydd y Senedd yn ei hanghytuno a ffordd y Brenin Siâr I o godi arian. Dyma ail gyfnod y Rhyfel Cartref rhwng y Frenhiniaeth a'r Senedd. Rhwng 1642 a 1648 profodd cynrychiolwyr y Senedd yn Sir Gâr yn ddigon abl i wynebu cefnogwyr y Brenin.. Ond cymaint oedd pryder y Seneddwyr yn 1648 fel y mynnodd Cromwell ei hun ynghyd â'i farchogion deithio i Gastell Penfro.
Canrif y tlodion
Canrif y tlodion oedd y 17eg ganrif. Yr oedd mwy ohonyn nhw na'r byddigions. Yr oedd y Cymry wedi gorfod byw gyda Gwŷr y brenin yn enw byddigions y Sir; Gwŷr fel teulu'r Fychaniaid Gelli Aur. Pan gafodd cynrychiolwyr y Brenin eu trechu yn Nhrefynwy, aeth y Cyrnol Laugharne, Seneddwr rhonc a oedd yn byw yng Nghastell Penfro ar y pryd, i gynorthwyo yn y frwydr honno ond ymhen hir a hwyr, pan sylweddolwyd na ddeuai tâl digonol o du'r Seneddwyr, ochrodd Gwŷr Castell Penfro gyda'r Brenin.
Taith Cromwell i'r gorllewin
A dyna a ddenodd Cromwell ar ei daith i 'r gorllewin wedi iddo sylweddoli cymaint oedd dylanwad y brenhinwyr yma o Benfro. Ymhell cyn yr ymweliad , chwit chwat a fu teyrngarwch tref Caerfyrddin ond erbyn Mai 1648 roedd pobol y dre a'r pentrefi o gwmpas yn gefnogwyr i'r Brenin. Yr oedd Cromwell wedi penderfynu eisoes sut y dylai'r wlad gael ei rheoli; "nid gan frenhinoedd a chythreuliaid." Pan ddeallodd dau o wÅ·r Penfro, Poyer a Powell bod Cromwell ar ddod gorchmynnodd Poyer fod pob pont ar draws yr afon Tywi i gael eu dinistrio ac i'r ffyrdd o amgylch gael eu diogelu.
Pan ddaeth Horton, un o brif wÅ·r byddin Cromwell at bentref Pontargothi gwelodd bod y bont wedi ei chwalu a'r ffyrdd o gwmpas yn cael eu hamddiffyn gan wÅ·r Poyer. Fe amddiffynnwyd bryn gan y Cymry a phetrusodd Horton rhag ymosod. Ofnwyd GwÅ·r y Senedd gan Gymry'r ardal ac er mwyn diogelu eu hunain rhyddhawyd eu gwartheg, gadawsant eu cartrefi gan rhwygo gweithdai'r gofaint a cheisio lloches yn y coedwigoedd. Ataliwyd y fyddin am ychydig ond oherwydd eu cryfder llwyddwyd i gyrraedd a goresgyn Caerfyrddin a'i chadw i fyddin y Senedd. Cyrhaeddwyd Penfro erbyn diwedd mis Mai 1648.
Byr oedd y daith yn y dyffryn. Ond yr hyn sydd yn ffaith neu yn chwedl yn yr hanes yw'r lleoedd y bu Cromwell a'i bum catrawd o wÅ·r meirch yn llochesu ynddynt. Ymosodwyd ar Fleming, un o'i swyddogion a 100 o wÅ·r arfog gan y Cymry wrth iddynt chwilio lloches yn Eglwys Llandeilo Fawr a meddiannwyd yr Eglwys gan y Cymry wedi tri neu bedwar diwrnod o ymladd. Lladdwyd Fleming yn yr Eglwys wrth iddo saethu ei hun yn ddamweiniol.
Cromwell a'r Gelli Aur
Hanes sydd wedi ei gofnodi yw ymweliad Cromwell a'r Gelli Aur. Yr oedd y plasdy yn y cyfnod o dan sylw ym meddiant Richard Vaughan, Ail Iarll Carberry, un o wŷr y brenin gan iddo fod yn ymladd gyda lluoedd Siarl I. Pan ddeallwyd bod Cromwell â'i fryd ar dalu ymweliad â'r Plas, aeth yr Iarll i guddio mewn ffermdy yn Llanfynydd gan adael i'w wraig groesawu'r ymwelydd.
Y mae'n draddodiad ym mhentref Llandybie i Cromwell anfon milwyr i'r Derwydd pan oedd ar drywydd Iarll Carberry yn ddiweddarach. Perthyn i'r un traddodiad y mae'r hanes i Cromwell a'i filwyr aros yn y Plas, Llandybie.
Y tu hwnt i ddyffryn Tywi mae sôn am ffermdy Penpicillion ar gyrion Llansteffan a fu'n lloches i wŷr y Senedd. Yn y tŷ^ unwaith yr oedd Beibl Cromwell ac arno'r dyddiad 1654-6. Pa le bynnag y byddai galw am lety, yn yr Eglwys leol y byddid yn arfer cadw'r ceffylau, a dyna a ddigwyddodd yn Llansteffan.
Efallai mai'r cofnod ryfedda yn hanes Cromwell a'r ardal oedd ei ymweliad â Llan Newydd uwchben tref Caerfyrddin. Trodd tuag yno i ymweld â'i deulu yn ffermdy Cwmcastell fach. Dywed traddodiad yma mai Oliver Williams oedd ei enw cywir er i lyfrau hanes nodi mai gŵr o Huntington ydoedd. Cydnabyddid yn ardal y ffermdy mai mab ydoedd i Syr Richard Williams a gymerodd yr enw Cromwell wedi i'w ewythr Thomas ap Morgan gael ei ddyrchafu yn Arglwydd Cromwell gan Harri VIII.
Ar diroedd Cwmcastell, mewn cae o'r enw Parcylan, tua hanner milltir o bentre Trefechan crewyd pwll gwarchod. Fe'i gelwir yn Bwll Cromwell am mai oddi yno yr anelai Cromwell a'i wÅ·r y saethau ar dref Caerfyrddin. Trechwyd y dref a'i throi at ddibenion GwÅ·r y Senedd cyn i Cromwell a'i wÅ·r fynd am Benfro. Bu'r brwydro'n daer wrth geisio ennill Castell Penfro. Ar ei ffordd yno cyfaddefodd Cromwell na allodd ddod o hyd i'r un efail lle gallai adnewyddu eu arfau, felly er mwyn darostwng tref Penfro apeliodd at Bwyllgor Caerfyrddin am help i ddefnyddio ffwrneisi yn y Sir ar gyfer cynhyrchu offer rhyfel.
Troediodd byddin Cromwell yr ardal hon eilwaith yn 1649 ar eu ffordd i Iwerddon ac wrth ddychwelyd ymwelwyd ag Eglwys Llangathen. A fu taith i Gastell Dryslwyn ac ymosodiad ar Carreg Cennen? Beth a ddywed traddodiad am hynny, tybed? Yn ei adroddiad i'r Senedd dywedodd Cromwell am Gymry'r de orllewin, eu bod yn barod i ymladd bob dydd ond eu bod nhw yn dlawd.
"Mae'n rhyfedd i ni gadw'n dynion gyda'i gilydd. Dim ond bara a dŵr sydd ar gael i'n cadw ni ar ein traed. "Piwritan oedd Cromwell a gredai mai wrth ddarllen y Gair y gellid cadw'r hyn a enillwyd gyda'r cleddyf. Erbyn diwedd 1650 pasiwyd Deddf 'Er Taenu a phregethu'r Efengyl' a arweiniodd ymhen amser i'r capeli Anghydffurfiol a adeiladwyd mewn lleoedd diarffordd iawn ar hyd a lled ein gwlad. Ond stori arall yw honno.
Len Richards