Daeth i amlygrwydd mewn cyfresi fel Darn o Dir, Rownd a Rownd, Pam Fi Duw? a drama newydd slic S4C, Caerdydd.
Ond bydd cryn dipyn o ferched y tu hwnt i Gymru hefyd wedi sylwi ar yr actor golygus o Salem, Llandeilo, gan iddo ymddangos yn rhestr fer cystadleuaeth 'Bachelor of the Year' gan gylchgrawn Company ddwy flynedd yn 么l. Er, mae'n cyfaddef na gymerodd y peth yn ddifrifol iawn...
"On i'n meddwl taw j么c oedd e am ages," meddai'r mab fferm 26 oed. "Ond pan es i lawr i Lundain i'r digwyddiad, nes i a sylweddoli bod pobol yn ei gymryd e mor ddifrifol! Roedden ni yn gorfod cerdded lawr catwalk, ac oedd pawb yn newid ac yn cymryd oriau i wneud eu gwalltie'. Es i mas yn yr un t-shirt ag oeddwn i yn gwisgo'n dod 'off' y bys, jyst 'da chwistrelliad sydyn o 'deodorant', na'r cwbl!"
Mae Llew wedi ymuno 芒 Pobol y Cwm fel Chris, mab nad yw Brandon erioed wedi ei weld. Bu tipyn o gynhyrfu ar y dyfroedd hefyd wrth i'w ymddangosiad greu cryn tyndra rhwng Brandon a'i ddyweddi Julie. Er na welodd Chris erioed ei dad cyn hyn, buan iawn y daw'n amlwg bod gwaed yn dewach na d诺r.
"Mae Chris yn fachan digon hoffus, digon annwyl," meddai Llew, "a'r mwya' ych chi'n weld, y mwya' ych chi'n sylweddoli bod lot o waed y Monks yn ei wythiennau fe. Mae'n fachgen neis, ac ochr digon cheeky iddo fe. Ma fe wedi cael amser caled. Wedi colli ei lys-dad, ma fe'n mynd ati i drial ffindo mas pwy yw ei dad, sy'n ei arwain at Brandon. Ar y dechrau 'dyw Brandon na'r teulu ddim yn cytuno mai fe yw tad iawn Chris. Ond mae Chris yn dod n么l a n么l a n么l i Gwmderi nes maen nhw yn fodlon ei gredu fe. Ma hyn yn arwydd o'i bersonoliaeth e wy'n credu."
Er mai yn stiwdios 大象传媒 Cymru yng Nghaerdydd y caiff y gyfres ei ffilmio, mae Llew yn dewis byw yn ei filltir sgw芒r Llandeilo.
"Bues i yn y Royal Academy of Music, ac felly fues i yn byw yn Llundain am dair blynedd," meddai. "Sai'n credu ai byth yn 么l. Roedd hi mor flinedig byw mewn lle mor aggressive a prysur. Mae tawelwch yn gwneud lles i fi."
|