大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
R. S. Thomas Rhawd briodasol R. S. Thomas - rhan 2
Chwefror 2003
Parhad o ddadansoddiad Tom Ellis i gerddi R.S. Thomasam ei berthynas briodasol.

Fe fu farw gwraig R.S. Thomas ar ddechrau'r naw degau. Rai misoedd yn ddiweddarach, fe gyfansoddodd y bardd gerdd dan y teitl A Marriage.

Y mae'r gerdd honno ym marn llawer o bobol yn un o delynegion serch prydferthaf yn yr iaith Saesneg. Dyma ran ohoni.

"We met
under a shower
of bird-notes.
Fifty years passed,
love's moment
in a world in
servitude to time.
She was young;
I kissed with my eyes
closed and opened
them on her wrinkles...."

Y mae'r gerdd yn gwrthdroi'n llwyr y chwerwder hwnnw a fu'n datblygu yn rhai o gerddi'r bardd dros ugain mlynedd cyntaf ei briodas, chwerwder a gododd yn bennaf mi gredaf, o ddiffygion rhywiol y briodas.

Erbyn 1977 sut bynnag fel y gwelson ni y mis dwytha, yr oedd arwyddion bod y bardd yn mabwysiadu agwedd fwy pragmataidd a digyffro yngl欧n 芒'r berthynas rhyngddo 芒'i wraig. Yn y gerdd The Way of It, a gyhoeddwyd y flwyddyn honno, ac a drafodais y mis dwytha, y mae R. S. yn bwrw o'r neilltu ei chwerwder, ac yn cydnabod gyda pheth gwrthrychedd nad oedd ei wraig, pa run bynnag, dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad 芒 fo yn y lle cyntaf.

Chwi gofiwch ei bod wedi ei dderbyn as a girl/will under a thin moon, chwedl y bardd. Tair blynedd yn ddiweddarach, cyrhaeddodd Elsi Thomas oed yr addewid. Y mae R.S. yn dathlu'r achlysur efo cerdd sy'n dangos ei dynerwch tuag ati yn cryfhau. Ar y pryd yr oedd arwyddion y salwch, y bu Elsi farw oddi wrtho, i'w gweld yn glir a dioddefodd Mrs Thomas gystudd hir a blin dros y ddeng mlynedd nesaf. Mae'r bardd yn dechrau'r gerdd, Seventieth Birthday, trwy ei atgoffa ei hun yn y pennill cyntaf bod y galon yn organ fiolegol a wneir allan o feinwe, dwr, a chelloedd. Yna y mae o'n troi at ensyniadau rhamantaidd y gair:

... Ah, heart, the legend
of your person!
Did I invent
it, and is it in being still?

Ymddengys fod y bardd wedi bod mewn cariad 芒 merch ddychmygol, efallai hyd yn oed mewn cariad 芒 chariad ei hun, ac y mae'n gofyn yn awr, bron ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, a yw'n dal i deimlo fel y teimlodd o ar y dechrau - is it in being still?

Y mae'r ail bennill yn cynnig ateb:
In the competition with other
women your victory is assured.

Ond yng nghyd-destun y llinell flaenorol y mae hon yn gysur deufiniog. Gall awgrymu mai amo fo yn y lle cyntaf, wrth ddisgwyl y math o gariad yr oedd yn crefu amdano - Did I invent it - ac nas dychwelwyd, y gorweddai'r bai am natur anfoddhaol eu priodas. Serch hynny, wrth ofyn is it in being still?, sef anian dychmygol y ferch fe dwyllodd ef ei hun i gredu yr oedd yn priodi - did I invent/it - y mae o'n gofyn iddo fo'i hun a ydy o yn dal i deimlo'r un hen chwant.

Fel y gwelson ni, fe etyb y cwestiwn gydag argyhoeddiad: your victory is assured. Yn y fan hon y mae'r gerdd yn newid cywair. Y mae'r bardd yn ei henaint yn cael ei draed ar y ddaear. Amser, meddai R.S., yw'r lindys yn rhosyn boch ei wraig sy'n crino'r petalau'n ddiflino. Y mae'r gydnabyddiaeth honno yn arwain at bennill olaf y gerdd sydd mewn gwirionedd yn gyfaddefiad o'r cyfeiliornad a wnaeth y bardd pan oedd yn ifanc wrth ddewis merch nad oedd ganddi, er gwaethaf ei chariad dwfn, ysfa rywiol yn cyfateb i hwnnw oedd ganddo fo.

You are drifting away from
me on the whitening current of your hair.
I lean far out from the bone's bough,
knowing the hand I extend
can save nothing ofyou but your love.

Ond y mae'r pennill olaf yna yn troi'r berthynas rywiol rhwng y ddau o ben i waered. Fel y mae prydferthwch corfforol ei ferch ddychmygol yn gwywo, ac yntau'n anabl i'w achub, fe ddaw'n glir iddo mai'r hyn sydd wedi parhau yw cariad y ferch go iawn sy'n wraig iddo, ac nid ei diffygion rhywiol.

Trwy ddeg mlynedd cystudd ei briod, cyhoeddodd y bardd gerddi eraill yn mynegi nid yn unig ei dynerwch cynyddol tuag ati hi, ond hefyd ei gydnabyddiaeth o anocheledd ei hagwedd wahanol at eu priodas. Daw'r dyfyniad nesaf yma o'r gerdd Sonata a gyhoeddwyd ym 1983:

... what is life?'
pitifully her eyes
asked. And I who was no seer
took hold of her loth hand
and examined it and was lost
like a pure mathematician
in its solution: strokes
cancelling strokes; angles
bisected; the line of life deviating
from the line of the head; a way
that was laid down for her to walk
which was not my way.

Y ddynes arall
Fe gymhlethwyd y sefyllfa, sut bynnag trwy gydol y cyfnod yn 么l pob tebyg gan bresenoldeb dynes arall. Ail-briododd R.S. ar 么l marwolaeth ei wraig, ac yn ei gyfrol The Echoes Return Slow y mae'n cyfeirio'n uniongyrchol at fodolaeth y dwy ddynes.

Y mae'r gyfrol, a gyhoeddwyd ym 1988, yn un anarferol yn yr ystyr ei bod hi'n cynnwys ar bob tudalen ddarn o ryddiaith i wynebu cerdd gyfatebol. Y mae hynodrwydd y darn rhyddiaith ar dudalen olaf y gyfrol yn ymylu at fod yn bis芒r.

Both female. Both luring us on, staring crystal-eyed ovrs their unstable fathoms. After a lifetime's apprenticeship it navigating their surface, nothing to hope for but that for the love of both of them he would be forgiven.

Ystyr y darn hyd y gwelaf, yw math o gyfaddefiad amwys a hunan-dosturiol yn awgrymu ei fod wedi godinebu. Y Ddwy fenyw', wrth gwrs, yw ei ddwy wraig y bu'n cyflafareddu rhyngddyn nhw, os dyna'r gair, dros "oes o brentisiaeth". Pe bai ei gariad dros y ddwy yn fath o agape, sef cariad brawdol Cristnogol anhunanol, ni fyddai angen maddeuant arno; yn wir, i'r gwrthwyneb fe fyddai'n haeddu clod.

Y mae'n amlwg sut bynnag, bod ei berthynas 芒'r ddwy wedi bod yn ddyfnach o lawer na hwylio yn unig ar draws arwynebedd eu cymeriadau fel y mae o'n awgrymu. Y mae'r paragraff yn cyfeirio at y ddwy yn ein denu "ni" ymlaen ar draws "eu" dyfnderoedd "ansefydlog". Yr unig synnwyr y gellir ei briodoli'n rhesymol i'r rhagenwau lluosog "ni" ac "eu", yw bod R.S. yn y berthynas drionglog, yn partneri, bob yn ail, un o'r ddwy ar draul y llall. Wrth s么n hefyd, am eu "dyfnderoedd ansefydlog" y mae R. S. Yn awgrymu stormydd enbyd. Go brin mai caniad platonaidd sydd dan sylw.

I'r darllenydd hydeiml, felly, y mae dilema yn codi wrth ddarllen y gerdd yng ngwydd y rhyddiaith ar draws y dudalen. Dyma rhan o'r gerdd :

I look out over the timeless sea
over the head of one, calendar
to time's passing, who is now open
at the last month, her hair wintry.

Y mae'r gerdd yn hyfryd o dyner, pa un a gymerwn y wep o boen ar wyneb Elsi Thomas fel canlyniad perthynas ei gwr 芒 Betty, y ddynes arall a fyddai yn ail wraig iddo yn y man, ynteu, ac yn fwy tebygol efallai, fel canlyniad i'w salwch terfynol. Fe gyfyd y ddilema, sut bynnag, nid o'r gerdd fel y cyfryw, ond wrth gofio'r paragraff blaenorol.

Y mae'n anodd darllen y gerdd am y tro cyntaf, pa mor dyner bynnag y bo, heb deimlo diffyg chwaeth yn wyneb y cyfaddefiad agored bod y bardd yn caru dwy ddynes yr un pryd. Ar y llaw arall, rhaid cydnabod gonestrwydd y bardd sydd yn nodwedd drawiadol o'i farddoniaeth drwyddi draw. Ni wyddom, wrth gwrs, a oedd wedi trafod ei berthynas 芒 Betty, gyda'i wraig. A chlod i Elsi Thomas yw byrdwn y gerdd pa run bynnag.

Cyfyd ein siom, efallai, allan o duedd y Cymro i eilun-addoli bardd a'i osod ar bedestal, gan anghofio ei fod yn greadur dynol fel pob un arall ohonom, ac ni ddylid mesur ei farddoniaeth yng ngoleuni ei fywyd personol ond iddi hi adlewyrchu yn onest ei deimladau fel tarddiad ei reddfau creadigol.

Tybed a fydd goleuni ychwanegol ar y pwnc dyrys hwn i'w gael o ddarllen Residues, cyfrol olaf R.S.Thomas a gyhoeddwyd ar 么l ei farwolaeth?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy