大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Adfer Parc y Ponciau Adfer Parc y Ponciau
Chwefror 2004
Mae criw bach wedi bod yn gweithio'n ddygn ers ambell flwyddyn bellach i geisio codi arian ar gyfer adfer Parc y Ponciau ac adeiladu llefydd chwarae i blant a phobl ifanc yr ardal yno.

O fewn y ddau neu dri mis nesaf, bydd Cyfeillion Parc y Ponciau yn cyflwyno cais am grant i Gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae'r Cyfeillion wedi gwneud gwyrthiau i fedru cyflwyno'r cais mor sydyn gan fod y cam hwn yn cymryd misoedd ar fisoedd i'w baratoi.

Mae swyddogion Cyfeillion y Parc am ddiolch yn gyhoeddus, trwy Nene, i Mr Jonathan Price, Cyngor Sirol Bwrdeisdref Wrecsam am weithio mor galed ar y prosiect ar eu rhan. Mae Mr Price a Chyfeillion y Parc yn gobeithio mai cael cefnogaeth y rhai sy'n dosbarthu arian Treftadaeth y Loteri fydd y cam pwysig cyntaf ac os bydd y cais am arian yn llwyddiannus, bydd hyn yn agor drysau i lawer o sefydliadau eraill sy'n cynnig nawdd - er enghraifft Sportlot ac ENFYS sy'n darparu offer chwarae ac adnoddau chwaraeon a hefyd Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo.

Ffynhonnell arall yw Treth Claddfeydd Sbwriel McEvan sy'n cynnig arian i ddatblygu ardaloedd sydd o fewn pum milltir i gladdfa sbwriel a gwastraff sy'n dal i gael ei defnyddio.

Wal yr ardd goffa - cyfle i gyfrannu - prynwch fricsen!
Mae'n fwriad codi wal o gwmpas Gardd Goffa a fydd yn cael ei gosod ar y tir ar dop Yr Avenue, uwchben lle roedd y cwrt tennis, ers talwm. Y syniad yw fod pobl yr ardal yn prynu bricsen a gosod enw a dyddiad rhywun er cof, neu eich enw eich hunan arni.

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri yn gefnogol iawn i'r syniad yma ac maen nhw wedi dod o hyn i gwmni sy'n gwerthu brics o ansawdd uchel iawn. Mae'n dibynnu ar faint o bobl sy'n barod i archebu bricsen, wrth gwrs, ond awgrymwyd y byddai pob bricsen ac enw a dyddiad arni yn costio rhwng 拢25 a 拢30.

Trefnu gweithgareddau
Mae nifer o weithgareddau codi arian eisoes wedi'u cynnal (cafwyd adroddiad am y Ffair Haf ar y Ponciau yn Nene, ychydig fisoedd yn 么l.) Os ydych am wybod mwy am y prosiect a Chyfeillion y Parc, cysylltwch 芒 Mrs Jean Jones 4, Stryt y Weirglodd ar (01978) 840530


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy