大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Rhai o aelodau C么r Merched y Rhos Rhos yn canu dros Haiti
Mawrth 2010
Peter Pritchard yn ysgrifennu am sut y daeth daeargryn 芒 chorau'r Rhos at ei gilydd.

Cynhaliwyd cyngerdd yn y Stiwt nos Wener, Chwefror 5ed, i godi arian i Apel Trychineb Daeargryn Haiti. Bu'n noson, yn 么l nifer fawr o bobl, a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer. Am y tro cyntaf erioed, daeth pedwar c么r y Rhos at ei gilydd (Cantorion y Rhos, y C么r Merched, y C么r Meibion a Ch么r Orffiws y Rhos) i rannu'r llwyfan gyda thriawd offerynnol (Triawd Adlais) a chyflwyno gwledd gerddorol. Braf hefyd oedd gweld poster y tu allan i'r Stiwt yn cyhoeddi bod pob tocyn wedi ei werthu.

Bu'r noson yn lwyddian ariannol; codwyd 拢3, 550 a rhaid i mi ddiolch i'r Stiwt am ddarparu holl adnoddau'r adeilad, argraffu'r posteri a gwerthu'r tocynnau, heb godi yr un ddimai am y cymwynasau hyn.

Yn ogystal 芒 chael cyfle i wrando ar yr amrywiaeth cerddorol a gyflwynwyd, uchafbwynt y noson i mi oedd yr olygfa pan welwyd y pedwar c么r yn dod gyda'i gilydd ar y llwyfan i gloi'r noson, rhywbeth, gobeithio, a fydd yn cael ei weld eto yn y dyfodol agos.

Daeth y noson i ben pan safodd y corau a'r gynulleidfa mewn munud o dawelwch i gofio'r miloedd a laddwyd yn y drychineb ac yna ymunodd y corau a'r gynulleidfa i gydganu 'I bob un sydd ffyddlon' - anthem y Rhos!

Diolch o galon i bawb a gymerodd ran ac am gefnogaeth y gynulleidfa a ofalodd fod Theatr y Stiwt yn orlawn. Mae'n amheus gen i a allai unrhyw bentref arall yng Nghymru fod wedi cyflwyno'r fath gyngerdd ffantastig.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy