大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Lee Haven Jones a Rhian Blythe, fel Romeo a Juliet Adolygiad o Romeo a Juliet
Tachwedd 2004
Ar y 12fed a'r 13eg o Hydref daeth y Theatr Genedlaethol i'r Rhos am y tro cyntaf erioed. Romeo a Juliet oedd y cynhyrchiad a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan J. T. Jones.

Cyfeithodd J.T.Jones (na, nid ein JT ni!) bump o ddram芒u Shakespeare i gyd, sef Hamlet, Nos Ystwyll (Twelfth Night), Marsiandwr Fenis, Bid Wrth Eich Bodd (As You Like It) a Romeo a Juliet.

N么d J T Jones fu gwneud cyfiawnder 芒 Saesneg cyhyrog, coeth a bywiog y dramodydd Saesneg a esgorodd ar gynifer o drosiadau gwych barddoniaeth synhwyrus, dyfnder ystyr y mynegiant, a chwarae ar eiriau. Ei fwriad oedd cyfleu'r farddoniaeth anghymarol yn ogystal ag amwysedd rhyddiaith Shakespeare yn y Gymraeg. Credai mai proses greadigol yw cyfieithu drama o un iaith i iaith arall, ac yn achos dram芒u Shakespeare yn arbennig, roedd hynny'n golygu trosi'r Saesneg gorau i'r Gymraeg ar ei gorau. Credai hefyd fod y Gymraeg yn ddigon cyfoethog ei geirfa ac ystwyth ei chystrawen i gyfleu'r Saesneg gwreiddiol yn llwyddiannus a llawn.

Mae dram芒u Shakespeare yn ymdrin 芒 bywyd yn ei gyfanrwydd. Rhoddodd y dramodydd iaith briodol ac addas i'w gymeriadau - boed wreng neu fonedd. Mae'r gweision yn siarad mewn rhyddiaith, ond mae Romeo a Juliet yn mynegi eu teimladau yn y farddoniaeth fwyaf coeth a phrydferth a glywyd erioed. Fe geisiodd J T Jones gyfleu hyn yn y Gymraeg gan gadw at fesur rhydd, deg sill a di-odl , gan farnu mai hyn sy'n cyfleu naws y ddrama orau.

Mae llefaru dram芒u Shakespeare yn y gwreiddiol yn gelfyddyd arbennig iawn ac yn gamp anodd. Yn enwedig yn y ddrama arbennig hon gan fod cynifer o'r cymeriadau pwysig mor ifanc. Mae'r gamp, si诺r o fod, yn anos fyth mewn cyfieithiad a rhaid cyfaddef nad oedd y llefaru yn ddigon croyw na'r cymalu a'r brawddegu yn ddigon amrywiol ac ystwyth. Roedd pawb ar ruthr gwyllt ar hyd a lled y llwyfan ac roedd hi'n amlwg eu bod yn credu bod yn rhaid i'w llefaru gydweddu.

Mae'n wir mai dyma'r cynhyrchiad proffesiynol cyntaf o'r cyfieithiad Cymraeg o Romeo a Juliet, neu o unrhyw un arall o ddram芒u Shakespeare ers dros bymtheg mlynedd felly dydy ein hactorion ifanc ddim yn gyfarwydd 芒'r traddodiad. O ganlyniad doedd hi ddim yn syndod mai'r actorion h欧n a mwyaf profiadol yn enwedig Christine Pritchard fel y Nyrs a Wynford Ellis Owen fel y Brawd Lorens oedd y mwyaf effeithiol.

Ar y llaw arall rhaid canmol pob un o'r actorion am eu hynni a'u hymroddiad. Roedd eu symudiadau'n effeithiol a'r ymladd cleddyfau yn yr Act Gyntaf yn ddigon o ryfeddod a hawdd credu eu honiad eu bod nhw wedi treulio oriau'n meistroli'r grefft hon. Yn yr un modd roedd Lee Haven Jones a Rhian Blythe fel y ddau gariad yn edrych yn effeithiol ac yn llwyddo i gyfleu eu cariad a'r trasiedi a'i dilynodd.

Roedd y set yn lliwgar a thrawiadol ac anodd cytuno 芒 Ceri Sherlock yn Golwg bod y miwsig a'r goleuo yn ddi-ystyr ac anghyson. Ond unwaith eto rhaid dod yn 么l at y ffaith syml mai'r geiriau ydy calon pob drama, fel y profwyd yn y Stiwt yn ddiweddar pan berfformiwyd Othello yn eithriadol o rymus a gafaelgar heb gymorth na dodrefnyn nac offer o fath yn y byd.

Gobeithio mai dyma'r ymweliad cyntaf o nifer gan ein Theatr Genedlaethol ar ei newydd wedd. Hynny ydy, os byddan nhw am ddod yn 么l. Roedd y gynulleidfa ar y Nos Fawrth yn brin eithriadol. Ac o'r ychydig oedd yno dim ond 11 oedd o'r Rhos a'r Ponciau!

Nid oedd enw awdur ar waelod yr erthygl hon yn y papur bro.


Cyfrannwch

Jordan o Gwynllyw
Rydw i'n falch i glywed hyn. Does ddim digon o bethau ynglyn a'r gymraeg am pobl ifanc 17 oed fel y fi. Diolch


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy