大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
C么r Meibion y Rhos Cyngerdd C么r Meibion
Tachwedd 2006
Bydd pob ffordd yn arwain i Neuadd William Aston yn Wrecsam nos Sadwrn, Tachwedd 18, i Gyngerdd Blynyddol C么r Meibion y Rhos.

Bydd pob sedd wedi cael eu gwerthu gyda'r gynulleidfa'n disgwyl yn eiddgar am noson arall o gerddoriaeth o'r radd uchaf fydd yn dechrau am 7 o'r gloch.

Eleni eto bydd naws Gymreig i'r cyngerdd gyda'r pianydd lleol Ll欧r Williams a'r tenor sy'n byw ger Rhuthun, Rhys Meirion, yn westeion. Mae Ll欧r Williams wedi camu i gyhoeddusrwydd cenedlaethol yn ei yrfa fer ac mae dyfodol disglair iawn iddo heb amheuaeth.

Llyr WilliamsCafodd Ll欧r ei eni ym Mhentrebychan a mynychodd Ysgol Hooson yn y Rhos ac Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam. Tra yr oedd yn yr ysgol daeth yn gyfeilydd i G么r Meibion y Rhos. Fe enillodd ysgoloriaeth i ddarllen cerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines yn Rhydychen lle graddiodd ym 1998 gyda gradd dosbarth cyntaf Alpha. Aeth ymlaen i wneud ysgoloriaeth 么l-radd yn yr Academi Gerdd Frenhinol lle enillodd pob gwobr oedd ar gael.

O 2000 i 2002 roedd yn "Shin Fellow" yn yr Academi, yn hyfforddi cantorion ac yn astudio arweinyddiaeth. Yn 2004 cafodd y Wobr Borletti-Buitoni Trust ac yn gynnar yn 2005 enillodd y wobr MIDEM Classique `Outstanding Young Artist Award' yn Ffrainc. Yn ychwanegol fe gafodd ei ddewis yn New Generation Artist gan y 大象传媒 ac am ddwy flynedd rhoddodd ddatganiadau yn gyson ar 大象传媒 Radio 3 ac fel unawdydd gyda cherddorfeydd y 大象传媒 Symphony, Cerddorfa Genedlaethol Cymru a Cherddorfa Ffilharmonig y 大象传媒. Bu'n gyfeilydd swyddogol ddwywaith yng nghystadleuaeth Canwr y Byd yng Nghaerdydd.

Hefyd ym 2005 cymerodd Ll欧r ran yn Y Proms yn Neuadd Albert, Llundain am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symphony y 大象传媒 ac mae wedi cymryd rhan yng Ng诺yl Rhyngwladol Caeredin saith o weithiau dros y pedair blynedd diwethaf. Yn ystod yr haf hwn ymddangosodd eilwaith yn y Proms a bu yn America am y tro cyntaf a hynny efo Cerddorfa Talaith Minnesotta. Bydd yn dychwelyd i UDA toc ar 么l y Nadolig i roi saith perfformiad mewn gwahanol ddinasoedd yn y dwyrain.

Fe ryddhaodd ei CD cyntaf yn gynharach yn y flwyddyn yn cynnwys Preludes Chopin. Dywedodd un beirniad papur newydd: "Yn aml iawn mae rhywun yn gofyn i mi sut rwyf yn diffinio athrylith. Ar 么l clywed a gweld Ll欧r Williams yn canu'r piano fy ateb i bobl ydy, ewch i glywed Ll欧r yn perfformio, bydd athrylith o'ch blaen."

Rhys MeirionMae'r tenor Rhys Meirion yn adnabyddus iawn hefyd. Yn frodor o Dremadog daeth yn brifathro ysgol Pentrecelyn, ger Rhuthun, cyn dechrau hyfforddi fel unawdydd. Fe astudiodd yn Ysgol Cerdd a Drama'r Guildhall ac ym 1999 ymunodd 芒 Chwmni Opera Lloegr. 0 2001 i 2004 fo oedd y prif unawdydd a chanodd mewn llawer o'r oper芒u mwyaf adnabyddus.

Ym 2002 aeth i Awstralia lle canodd ran Rodolfo yn La Boheme i Gwmni Opera Gorllewin Awstralia. Mae Rhys wedi cymryd rhan mewn cynhyrchion yn Frankfurt-aus-卢Main, Hong Kong, Florida ac yn Ottawa. Rhai misoedd yn 么l roedd yn Awstralia eto yn canu i Opera Awstralia ac yn Lithiwenia yn canu i Gwmni Opera Cenedlaethol y wlad honno Mae Rhys wedi cymryd rhan mewn amryw o Wyliau Cerddorol yn cynnwys rhai yng Ngogledd Cymru, Abertawe ac yn Chelten卢ham i enwi ond rhai. Cymerodd ran yng nghyngerdd agoriadol y Proms ym 2001 gyda Bryn Terfel ac mae'r ddau wedi rhyddhau CD dan y teitl Benedictus ar label Sain. Yn ogystal mae Rhys wedi rhyddhau dau re卢cordiad unigol i Sain ac un i gwmni yn Aw卢stralia.

Mae ei ymddangosiadau ar y teledu yn cynn卢wys canu ym Messiah (Handel). Y mae galwadau mawr am wasanaeth Ll欧r Williams a Rhys Meirion a bydd y ddau yn si诺r o blesio cynulleidfa orlawn y Cyngerdd Blynyddol ar y noson.

Fel sy'n arferol bydd Rona Jones yn cyfeilio i'r unawdydd ac mae ei medrusrwydd ar y piano yn wybuddus i bawb. Mae Rona wedi cyfeilio i rhai o unawdwyr mawr y byd ac maent yn gwerthfawrogi ei thalent - fel mae'r c么r yn ei wneud. Bydd C么r Meibion y Rhos dan arweiniad John Daniel, gyda'r Dirprwy Gyfarwyddwr Kevin Whitley, yn arwain mewn tri darn yn ogystal 芒 chyfeilio.

  • Cliciwch yma i ddarllen hanes C么r Meibion y Rhos, gan un o'r aelodau

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy