大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Llwyddiant i actor lleol
Mai 2003
Heb amheuaeth, dydy'r Rhos erioed wedi dioddef o ddiffyg talent. Mae hanes y pentre'n gorlifo gydag enghreifftiau difyr a lliwgar o enwogion o feysydd amrywiol.
O fyd barddoniaeth i wyddoniaeth ac o ddrama i gerddoriaeth mae'r pentref wedi creu mwy na'i ran o argraff ar y byd, gan sicrhau llwyddiant i nifer. Ac mae'n debyg y bydd y traddodiad talentog hwn yn parhau hyd y dyfodol gyda'r to ifanc o'r Rhos.

Ac un o'r unigolion diweddaraf i gael blas ar y llwyddiant hwnnw ydy Daniel Lloyd, mab Gareth a Deborah o'r Bonc Wen, sydd ar fin graddio o Brifysgol Cymru Bangor eleni yn ei gwrs Astudiaethau Theatr a'r Cyfryngau. Ond mae ei allu'n ei gymryd y tu hwnt i ffiniau Cymru.

Mae Daniel, 20, yn bwriadu hyfforddi fel actor ymhellach ar 么l iddo guro dwy fil o actorion ledled Prydain am un lle allan o un ar bymtheg yn yr ysgol actio proffesiynol 'East 15' yng ngogledd Llundain ac sy'n gyfrifol am nifer o enwogion a wynebau cyfarwydd o fyd y Theatr a'r cyfryngau.

Mae'r cyfnod diweddar wedi profi'n llwyddiannus a phrysur iddo, wrth iddo sglefrio at ei daith o lwyfan moethus y Stiwt i oleuadau llachar Llundain. Llai na dau fis yn 么l cynhyrchodd Daniel ei ddrama gyntaf ar gyfer y llwyfan - drama oedd wedi'i chyfarwyddo a'i haddasu ganddo ar gyfer llwyfan y brifysgol ym Mangor fel rhan o'i radd. Enw'r ddrama oedd 'Bownsars', sef addasiad o'r ddrama Saesneg boblogaidd 'Bouncers' gan John Godber. Petai hynny ddim yn ddigon roedd Daniel yn cymryd un o'r prif rannau hefyd!

Yn ogystal mae Daniel newydd orffen gyda phrif ran arall mewn cynhyrchiad yn Theatr Gwynedd o 'Y Ffeirio' addasiad o'r ddrama, 'The Changeling'. Theatr Ifanc yn y Rhos oedd un o'i fannau cychwyn ym myd y theatr gan ymddangos mewn nifer o sioeau. Y tro cyntaf oedd y ddrama gerdd 'The Ragged Child' yn 1998 a'r tro olaf oedd 'Bright Side of the Road' yn 2001. Chwaraeodd y prif rannau mewn nifer ohonynt a chyfrannu at y band gyda'i ddoniau cerddorol ar y git芒r.

Efo'i ysgol cafodd y profiad o berfformio yn Theatr Clwyd yn 'Cyfaill Arfog' a hyd yn oed yn yr UDA mewn opera roc o'r enw 'Dropped Stiches' oedd yn cynnwys caneuon Queen. Ond mae'n debyg mai un o'i brif lwyddiannau yn yr ysgol oedd y sioe 'Nene Ene' yn seiliedig ar y gerdd o'r un enw gan Gwynne Williams. Bu Daniel yn gyfrifol am gyfansoddi 16 o'r caneuon ar gyfer y sioe honno, ac yn un o brif aelodau'r cast yn y rhan Jiwdas.

Yn ogystal 芒 chael llwyddiant yn y Stiwt, fe gafwyd gwahoddiad i Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych yn 2001. Mae Daniel wedi ymddangos ar lwyfan y Theatr Fach yn Wrecsam gyda'r sioe 'The Boyfriend' a chyda chwmni Cerdd a Drama Cefn Mawr. Ar 么l symud i Fangor dair blynedd yn 么l, rhoddodd diwydiant y cyfryngau Cymraeg yn yr ardal gyfle i Daniel gael blas ar waith yn y maes.

Cafodd waith gyda chwmn茂au teledu annibynnol yr ardal boed hynny'n waith canu, cyfansoddi, actio neu gynhyrchu. Roedd haf 2001 yn llwyddiannus iddo, gyda gwaith yn stiwdio deledu Pyramid yng Nghaerdydd a bydd Daniel eleni eto yn mynd i stiwdio Barcud yng Nghaernarfon i weithio yng Nghaernarfon i weithio gyda chwmni teledu Gwdihw a'r cwmni hyfforddi Cyfle.

Yn ddiweddar cafodd lwyddiant yn y gystadleuaeth 'Wannabe Search for A Star' a drefnir gan dafarndai Yates'. Allan o 12,000 cafodd ei ddewis fel un o ddeg i gystadlu yn y rownd derfynol am wobr o 拢10,000 yn Leicester Square, Llundain. Ac mae i'w weld ambell dro yn canu o gwmpas ein hardal ni gan amlaf yn y tafarndai lleol megis y Black Lion yn y Rhos.

Bydd Daniel yn rhyddhau CD o'i ganeuon yn fuan o gyfres o sesiynau recordio efo Radio Cymru ym Mangor. Hoffai Daniel ddiolch yn fawr i'w deulu a'i ffrindiau am eu help a'u cymorth dros y flwyddyn ddiwethaf yn enwedig Sue Roberts a David Pritchard am eu brwdfrydedd a'u cymorth angenrheidiol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy