大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Y Stiwt Stiwt Slawer dydd
Medi 2005
Ddiwedd Mehefin cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Wrecsam, ond yn y Stiwt cafwyd y swper!
Ymddangosodd yr atgofion isod yn Y Tyst yn ystod mis Gorffennaf gan un o blant y Rhos - a'r Stiwt. Diolch am ganiat芒d i'w ailgyhoeddi yn NENE.

Paradwys o le oedd y Stiwt i ni fechgyn ifainc ym mhedwardegau'r ganrif ddiwethaf. Pictiwrs - first a second house a'r ffilmiau'n newid tair gwaith yr wythnos.

Pum ceiniog oedd y pris i'r lle rhata' sef y 'chicken run!' tra roedd y balconi, a'i seddau dwbl yn y corneli, yn ddrutach ond yn werth pob dimai i gariadon ifainc! Unwaith neu ddwywaith y mis, ar nos Fercher, cafodd y pictiwrs seibiant pryd y cynhaliwyd drama, neu gyngerdd mawreddog gyda chorau lleol ac unawdwyr o fri fel Mary Jarred a Bruce Dargavel, a'r neuadd fawr dan ei sang.

Yn ystod y dydd hefyd dyma i chi le prysur. Y neuadd yn cael ei glanhau ar gyfer pictiwrs y noson honno tra i fyny'r grisiau roedd ystafell wyddbwyll a draffts. Timau o fri yn y chwaraeon hyn ac un o'r chwaraewyr sef Joe Charles yn bencampwr y byd am osod problemau mewn draffts.

Drws nesaf oedd yr ystafell ddarllen yn cynnwys papurau dyddiol, wythnosol a misol a ddarllenwyd yn frwd iawn gan yr hynafgwyr. Yna'r llyfrgell doreithiog dan ofal craff di-w锚n y llyfrgellydd a hawliai ddistawrwydd llethol yn y lle cysegredig hwn.

Yna'r ystafell ymgynnull a ddefnyddiwyd yn rheolaidd gan gorau lleol i ymarfer gyda chegin fach i wneud paned. Ond i ni, y rhai ifainc, ystafelloedd y llawr oedd yn ein hudo.

Ar wah芒n i'r neuadd fawr roedd dwy ystafell arall ar lawr y Stiwt hefyd. Dyma'r nefoedd i ni. Dwy ystafell hirsgwar yn ymyl ei gilydd a phedwar bwrdd snwcer mawr ymhob un. Un ystafell i chwaraewyr cyffredin eu dawn - ond eto yn medru gwneud ambell rediad sylweddol. Yr ystafell orau oedd mangre'r chwaraewyr da iawn. Dau fwrdd lle chwaraewyd biliards yn unig a'r ddau fwrdd arall yn gyfyngedig i snwcer.

O gwmpas yr ystafell roedd seddau esmwyth yn llawn o bensiynwyr gwybodus yn gwylio pob ergyd a phob hyn a hyn fe glywyd ebychiad o ganmoliaeth neu ochenaid o wae! Roedd y byrddau hyn mewn cyflwr cystal ag unrhyw fwrdd yn y Crucible ac yn cael eu trin fore a hwyr gyda gofal cysegredig gan y ddau stiward sef William Defi a Den Jona.

Wiw i ni gam-fihafio na thrin y byrddau mewn ffordd anghyfrifol neu roedd ffon Den Jona yn cael ei defnyddio ar fan poenus iawn o'r corff. Prysur iawn oedd y byrddau o ddeg y bore tan ddeg yr hwyr, a chan fod y coliars yn gweithio tair shifft roedd canran sylweddol ohonynt ar y byrddau drwy'r dydd yn ogystal 芒 ni, bechgyn ysgol, a gyrchai yno ar 么l te i ddangos ein medr er gwaethaf bygythiad J. T. Jones, prifathro ysgol Ramadeg y Bechgyn Rhiwabon, fod y snwcer yn ddylanwad drwg ar yrfa academaidd!

Pan gaewyd y pyllau glo newidiodd anian yr holl ardal. Llawer yn gadael y Rhos i edrych am waith ac estroniaid yn dylifo i mewn. Collwyd hen draddodiadau'r ardal ac esgeuluswyd y Stiwt a dirywiodd yr adeiladau.

Bu cynnig i'w droi yn glwb yfed. Roedd hyn wrth gwrs yn groes i arferion mynychwyr y Stiwt. Lemon锚d Twm Charles o'r Ponciau oedd yr unig ddiod a werthwyd yno yn yr hen amser. Ni fu'r clwb yno'n hir iawn.

Yna daeth tro ar fyd. Ffurfiwyd Pwyllgor arbed y Stiwt. Perswadiwyd y Cyngor i beidio 芒 dymchwel yr adeilad, a bu llu o wirfoddolwyr wrthi yn brysur am rai blynyddoedd yn adfer y lle.

Heddiw mae'n fangre hardd. Wedi dringo'r grisiau cerrig at y fynedfa, pnawn Gwener yr Undeb yn Wrecsam, rhyfeddais at harddwch yr ystafelloedd ac er nad oedd ystafell snwcer yno bellach, caeais fy llygaid a rwy'n sicr mi glywed clic clic y peli lliwgar o'r pellter fel o'r blaen. Atgofion melys yn wir.
Morien Phillips


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy