大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Aled Phillips Blwyddyn gerddorol brysur
Chwefror 2007
Bu 2006 yn flwyddyn brysur dros ben i Aled Phillips. Ar dechrau'r flwyddyn enillodd ysgoloriaeth a noddir gan gyfarwyddwyr Cymdeithas Gorawl Prydain.
Rhoddir yr ysgoloriaeth hon i'r tri arweinydd ifanc mwyaf addawol yn holl wledydd Prydain... ac roedd Aled Phillips yn un o'r trio

Dechreuodd yflwyddyn yn arwain cyngerdd yn Walton, Lerpwl. Roedd y rhaglen yn cynnwys cerddoriaeth gan Handel, Bob Chilcott, y cyfansoddwr Saesneg cyfoes sydd hefyd yn arwain Cantorion y 大象传媒, a threfniant wyth rhan gan John Hearne o'r don enwog Y Delyn Aur.

Ym mis Mai, teithiodd Aled i Ddulyn i ymarfer Requiem (Verdi) gydag Undeb Corawl Cymreig Lerpwl, Cymdeithas Gorawl Tallaght a Cherddorfa Simffoni Genedlaethol RTE, dan gyfarwyddyd Mark Armstrong sy'n cael ei gyfrif ymhlith prif arweinyddion Iwerdddon.

Bu'n brofiad anhygoel. Meddai Aled, "Does dim byd i guro , gweld arweinydd a pherfformwyr, i gyd ar anterth eu gyrfa, yn cydweithio yn Neuadd Gyngerdd Cenedlaethol Iwerddon.

"Wel, o'r hyn lleiaf, roeddwn i'n tybio ar y pryd nad oedd modd gwella ar y profiad. Yna agorodd y drysau, dechreuodd y gerddorfa ac aelodau'r cor gymeradwyo, a phwy ddaeth i mewn ond dau 0 '0' hardal ni - Camilla Roberts (soprano) a Geraint Dodd (tenor). Rhaid cyfaddef, ein talentau lleol ni oedd ser y noson ac roeddwn yn teimlo'n falch iawn o'r ddau ."

Cyfoethogwyd y profiad i Aled gan iddo fanteisio ar y cyfle i gael sgwrs efo hwn a' r llall, yn ystod yr egwyl rhwng cyfnodau'r ymarfer, a gwrando ar hanesion difyr am nifer o'r perfformiadau a'r cyngherddau a gyflwynwyd dros y blynyddoedd.

Dangosodd y daith wedd arall ar yrfa' r cerddor proffesiynol -teithio dros y m么r yn y dosbarth cyntaf yna tywysydd (courier) yn dod i'w gyfarfod a'i gymryd draw i westy posh dros ben.

Hyfryd iawn. Ond fel arall fu'r daith adre! Meddai Aled, "Ddaru ni gael storm ofnadwy ar y mor ac, i wneud pethau'n waeth ynghanol y dyfroedd mawr a'r tonnau, roeddwn i'n dychmygu Geraint a Camilla yn eistedd yn gyfforddus braf mewn awyren!"

Yr wythnos ddilynol, cafwyd ailberfformiad o'r Requiem ond, y tro hwn, yn Neuadd Ffilharmonig Lerpwl dan gyfarwyddyd Keith Orrell.

Ar 么l ymarfer efo'r c么r - i "dwymo'r" lleisiau cyn y cyngerdd - bu'n rhaid i Aled fynd ar garlam gwyllt o gefn yr awditoriwm i gyrraedd ei sedd yn y gunlliedffa mewn pryd.

Unwaith eto cafwyd perfformiad rhagorol gan y c么r, yr unawdwyr a'r gerddorfa.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy