大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Hen ffrindiau yn Ysgol y Ponciau Hawdd cynnau t芒n ar hen aelwyd
Gorffennaf 2008
Vaughan Pritchard yn disgrifio hen ffrindiau o Ysgol y Ponciau yn cyfarfod yn yr ysgol eto am y tro cyntaf ers 1949!

Gweld ap锚l Mrs Darlington, prifathrawes Ysgol y Ponciau, yn rhifyn mis Ebrill o Nene am hen luniau a'm hysgogodd i drefnu aduniad o ddosbarth Standard IV o Ysgol y Ponciau 1949. Achos y mae'r rheini ohonon ni sy ar 么l yn cyrraedd oed yr addewid eleni.

A deud y gwir mi roeddwn i wedi meddwl gwneud hyn yn 1978, 1988 a 1998 ond bod yr hen asgwrn diog ne yn drech na fi. Ond doedd ne ddim diogi i fod y tro hwn a braf o beth oedd ca'l sgows efo un ar bymtheg ohonyn nhw wrth imi'u holrhain nhw o un i un. A brafiach byth oedd deall eu bod nhw i gyd yn awyddus iawn i ymweld 芒'r hen ysgol cyn iddi hi gau ei dryse am y tro dwytha ar ddiwedd y tymor.

Dydd Mawrth Mehefin yr 17eg oedd y diwrnod mawr a chyn deg o'r gloch roedden ni wedi ymgasglu wrth y gi芒t lle y bydde'n mame yn ein gadael ni ers talwm! Roedd Ieuan Prys Davies wedi teithio o Lechryd yng nghwaelod Sir Aberteifi a Gwilym Richards o Bentre Llyn Cymer ac roedd Graham Gittins wedi dod 芒'i adroddiad ysgol o Standard 2 ym 1947!

Wedi mynd i mewn i'r neuadd fe gawson ni groeso cynnes iawn gan y brifathrawes, y staff, y plant a rhieni oedd wedi paratoi byrbryd inni. Ond cyn hynny fe gawson ni wledd arall, sef gwledd o ganu gan g么r yr ysgol - hynny ydy pob un o'r disgyblion. Ac fe aeth ymlaen yn ddi-dor am bron i awr gan iddyn nhw ganu 16 o ganeuon Saesneg heb air o'u blaen. Dene i chi gof. A dene i chi ynni! Rhaid bod megin bob un ohonyn nhw'n berffaith (fel roedd ein rhai ninne yn 1949!). Ar ddiwedd y cyngerdd diolchodd fy hen ffrind, Elfyn Richards, i Mrs Mair Darlington, y staff ac yn enwedig y plant am fore bythgofiadwy.

Ond nid dene'i diwedd hi o bell ffordd. Fe gawson ni gwmni nifer o'r plant hynaf oedd yn awyddus i'n holi ni am yr hen ddyddie ac roedd hi wedi un o'r gloch erbyn i'r rhai olaf ohonon ni adel yr hen ysgol annwyl - am y tro olaf un! O ganlyniad chwerw felys oedd hi ond fe gawson ni i gyd ddwy awr iawn o hel atgofion melys am yr hen ysgol a'r pentref a dw i'n siwr bod ein chwerthin ni'n dal i ddiasbedain drwy'r adeilad.

Fel y dwedai Nhaid Poncie ers talwm: "Ma llond bol o chwerthin yn well tonic o lawer na photeled o ffisig."

Ie, bore i'w goleddu am weddill ein hoes.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy