大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene

Schubertiaid yn y Stiwt
Mehefin 2003
Byddai ffrindiau Schubert (1797 - 1828) yn trefnu m芒n gyngherddau yn nhai ei gilydd er mwyn hybu gyrfa'r cerddor a dod 芒'i waith i sylw'r cyhoedd. Gelwid y cyfarfodydd hyn yn Schubertiad ac ynddyn nhw byddai'r cerddor yn canu'r piano, yn cyfeilio ac yn canu ei hunan.

Cyflwyno cerddoriaeth a rhoi llwyfan i gantorion ac offerynwyr lleol yw'r weledigaeth y tu 么l i'r gyfres o dri datganiad sydd i'w cynnal yn y Stiwt dros gyfnod o dri mis.

Bydd yr ail a'r trydydd datganiad yn gwneud yr un gymwynas i ddau gerddor o'r ardal, William Davies a Dr. Caradog Roberts ag y gwnaeth ei ffrindiau i Schubert yn Fienna, slawer dydd - heb s么n am y wledd gerddorol sy'n cael ei chyflwyno i'r gynulleidfa. Mae trefnu datganiadau cerddorol o'r fath, fel y dywedodd Peter Read, Rheolwr y Stiwt, wrth gynnig y diolchiadau yn cynnal gweledigaeth gwreiddiol y rhai gododd y Stiwt bron 80 mlynedd yn 么l, sef hybu cerddoriaeth, drama, llenyddiaeth a chynnig llwyfan i dalentau'r ardal.

Mae ein diolch yn fawr i Brian Hughes am drefnu'r gyfres ac ar 么l y datganiad cyntaf rhyfeddol, pnawn Sul, Mai 18, mae gwledd yn ein haros ar Fehefin 15 a Gorffennaf 6 . Y pryder, os pryder hefyd, oedd faint o gynulleidfa fyddai'n dod i'r arbrawf cyntaf hwn ar bnawn Sul, Mai 18. Wedi'r cyfan, aeth bron ganrif heibio er pan fyddai Smith Anderson Duce a'i deulu'n cynnig cyngherddau siambr offerynnol cyffelyb ar y Suliau yn y Pavilion a'r Public Hall.

Doedd dim angen colli cwsg - daeth 130 o gynulleidfa, a honno'n gynulleidfa a oedd yn ymateb yn frwd a deallus i'r perfformiadau gwych a gafwyd. Agorwyd y cyngerdd gyda deuawd llachar ar y piano Rona Jones a Brian Hughes, March Heroique.

Roedd y rhaglen yn canolbwyntio'n bennaf ar y caneuon a gyfansoddodd Schubert yn ystod pedair blynedd olaf ei oes (cyfnod 1824 - 1828) - bu farw'r cerddor yn 31 oed ym 1828. Ond roedd wedi dechrau cyfansoddi'n ifanc iawn ; yn wir, dim ond 16 oed ydoedd pan gyfansoddodd yr unawd enwog i fariton Der Erlk枚nig a chyn diwedd ei oes roedd wedi cyfansoddi 600 o ganeuon. Mae'r lieder hyn yn dangos gwaith y cerddor byrlymus hwn ar ei orau.

Nid ar chwarae bach mae cyflwyno'r caneuon a chreu'r awyrgylch priodol gan fod y cerddor yn eu llwytho pob math o dyndra emosiynol o fewn cwmpas cyfyng ei ganeuon - y dwys a'r llon, tristwch hiraeth a llawenydd ffwrdd-a-hi, y cyffrous a phoen gofidiau.

Mae'r ddau unawdydd ifanc, Eleanor Jones (soprano) ac Aled Phillips (tenor) i'w llongyfarch ar eu perfformiadau aeddfed a gafaelgar. Mae'n wir bod taflenni'n cynnwys cyfieithiadau o eiriau pob c芒n wedi'u dosbarthu i'r gynulleidfa, a da o beth oedd hynny, ond, yn ystod perfformiadau Eleanor ac Aled, doedd dim angen edrych ar y nodiadau gan fod y ddau unawdydd yn llwyddo i gyfleu holl amrywiaeth emosiynol y geiriau Almaeneg yn gynnil a dramatig.

Am yn ail 芒'i gilydd canodd Eleanor An Die Musik (i Gerddoriaeth), Die Liebe Hat gelogen (Gwnaeth cariad dro s芒l i mi) a Seligkeit (Gwynfyd) ac yna cafwyd Das Wandem (Crwydro) Gute Nacht (Nos Da) a Frulingstraum (Breuddwyd y gwanwyn) gan Aled. Roedd y naill a'r llall yn amlwg yn dehongli'r caneuon yn fedrus 芒'r llais a'r llygad, gw锚n ac ystum cynnil, cynnil. Roedd Rona a Brian yn cyflwyno'r deuawdau am yn ail 芒'i gilydd ac esboniwyd fod y deuawdau piano hyn yn hynod o boblogaidd yn nyddiau Schubert gan eu bod yn foddion i dynnu sylw a phoblogeiddio gwaith offerynnol a simffon茂au'r cerddor. (Roedd Liszt wedi trefnu deuawd piano ar Nawfed Simffoni Beethoven, er enghraifft).

Gyda dyfodiad recordiau, cas茅t a CD, doedd dim angen hybu simffon茂au drwy drefnu deuawdau piano ac maen nhw bellach yn cael eu hesgeuluso - sy'n resyn gan fod deuawdau Schubert ymhlith ei gyfansoddiadau disgleiriaf. Yr ail ddeuawd a berfformiwyd oedd Andantino varie a gyfansoddwyd flwyddyn cyn marwolaeth Schubert - darn yn llwythog o feddyliau dwys.

Roedd ail gr诺p o ganeuon Eleanor yn cynnwys Hark, Hark the Lark (cerdd sy'n ymddangos yn Cymbeline gan Shakespeare ( drama am Cynfelyn, un o arweinyddion y Brythoniaid, gyda llaw). Roedd Schubert wedi trefnu deuawd i biano ar alaw'r g芒n hon ac ar 么l unawd Eleanor cyflwynwyd y ddeuawd gan Rona a Brian. Ei dwy eitem olaf oedd Nur wer die sensuicht kennt ( Dim ond yr hwn a 诺yr hiraeth) a Lachen and weinen (Chwerthin a Dagrau). Gwych o gyflwyniad. Yn gynnil a sensitif a phurdeb y sain a'r geirio yn gwefreiddio pob cyflwyniad.

Tair c芒n olaf Aled oedd Who is Sylvia, Der Neugierige (Y Gofynnwr) a D a s Fischermadchen (Y Ferch bysgota). Cafwyd perfformiadau hynod o aeddfed gan Aled ac mae ei lais gloyw a'i ddisgyblaeth yn gweddu i'r dim i'r math hwn o ganu. Daeth yr awr i ben - yn rhy fuan o lawer i'r gynulleidfa - gyda chynfas eang y ddeuawd piano Ffantasia yn A leiaf. Anferth o waith sy'n gofyn techneg a anghyffredin a stamina! Roedd gafael Brian a Rona ar strwythur eang y gwaith yn syfrdanol.

Mae Rona a Brian yn cael eu cydnabod fel cyfeilyddion o'r radd flaenaf yn ogystal 芒 bod yn unawdwyr piano o safon. Roedd cyfeilio Rona i Aled a Brian i Eleanor yr berfformiad a hanner! Nid gor-ddweud na gor-ymateb fyddai dweud fod y cyflwyniadau a gafwyd yn y Stiwt, bnawn Sul, Mai 17, yn harddu unrhyw neuadd gyngerdd broffesiynol. Diolch am wledd! Roedd y ffaith fod nifer o'r gynulleidfa, ar eu ffordd allan o'r neuadd, yn prynu tocynnau ar gyfer dau ddatganiad nesaf y gyfres yn dweud digon. Yn edrych ymlaen yn arw...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy