Roedd Nerys Woodall, Swyddog Cyswllt Blynyddoedd Cynnar Llyfrgell Wrecsam, wedi ymweld 芒 phlant yr ysgol yr wythnos cyn iddyn nhw ymweld 芒'r Llyfrgell, er mwyn darllen storiau iddyn nhw. Roedd hi hefyd wedi gofalu dosbarthu cardiau cofrestru ar gyfer bod yn aelodau o'r llyfrgell fel y gallai'r plant eu cymryd adref a chofrestru'n aelodau cyn iddyn nhw ymweld 芒'r Llyfrgell.
Yn ystod yr ymweliad a drefnwyd ganddi, cyflwynodd bob math o weithgareddau - gwrando ar storiau, canu caneuon a gweithgareddau celf...a lluniaeth! Cafodd rhai o'r plant gyfle i gyfarfod 芒 Freddie'r Llyffant, mascot sy'n ymweld 芒'r Llyfrgell yn ystod Wythnos Lyfrau'r Byd.
Roedd y plant a oedd wedi dod efo'u cardiau cofrestru'n 么l yn medru dewis eu llyfr cyntaf i'w gymryd allan o'r llyfrgell a helpodd Nerys nhw i hawlio'u llyfr ar fenthyg trwy sganio'r c么d bar a stampio'r dyddiad arno.
Cafodd y plant a'r athrawon amswer gwych a dysgwyd llawer am y llyfrgell a gobeithir trefnu ymweliad arall yn fuan iawn. Bydd y cysylltiadau a gr毛wyd rhwng yr ysgol a'r llyfrgell o fudd i'r ysgol, y plant a'u teuluoedd.
|