´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Ymweliad â Gwlad Thai Ymweliad â Gwlad Thai
Ebrill 2007
Darllenasom gyda diddordeb, erthygl gan James Griffiths yn rhifyn mis lonawr o'r Llais am ei ymweliad â Gwlad Thai ac yn benodol a mynwent Kanchanaburi gan ein bed ninnau yn mynd i ymweld a'r un fynwent fel rhan o'n gwyliau. .

Gan fod Mr Griffiths wedi sôn am ei brofiad teimladwy o ganfod carreg fedd Cymro, sef Parry Glyn Morgan, bachgen 23 oed o bentref Llanfallteg, Sir Gaerfyrddin gyda'r geiriau Cymraeg ami - 'Yn angof ni chaiff fod'.

Aethom i chwilio am y garreg fedd ar ein hymweliad.

Wrth chwilio, daethom ar draws bedd Cymro arall yn y 7fed rhes ar yr ochr dde i'r brif fynedfa gyda'r cwpled Gymraeg yma wedi ei dorri ami:

Dros ei wlad y rhoes ei Iw
Dros fôr fe droes i farw.

Ar ô dychwelyd adref, canfuwyd mai bedd bachgen 26 oed o Bontardawe ydoedd, a roes ei fywyd ymhell o'i famwlad ar 24.12.43, sef Elfed Jones (Signalman 2336678) o'r 18fed Adran, Royal Corps of Signals, mab i Evan a Mary Anna Jones.

Cyfeimod y bedd oedd Llecyn 2, Rhes G, Bedd 35.

Cawsom hefyd gyfle i ymweld ag Amgueddfa JEATH (Japan, England, Awstralia/America, Thailand a Holland) i'r Rhyfel sy'n portreadu hanes erchyll y caledi a'r dioddefaint a ddaeth i ran y carcharorion dan law'r Siapaneaid wrth iddynt orfod ymlafnio yn y gwres lIethol i adeiladu'r rheilffordd i Burma.

Profiad dirdynnol a thrist oedd darllen yr hanes a gweld lIuniau'n dangos y dioddefaint yn sgll diffyg maeth, gwaith lIethol a dihoeni gyda salwch, ac yna gweld y rhesi 0 feddau yn y fynwent.

Gareth Llwyd


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý