´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Siop 1922 Siop gigydd newydd i Fethesda
Gorffennaf 2005
Flwyddyn union yn ôl fe gaewyd yr unig siop gig oedd ym Methesda, a mawr fu'r golled i'r ardal hebddi.
Bu si ar led ers rhai misoedd bod siop gig newydd i agor ar y Stryd Fawr, ac erbyn hyn cafodd Llais Ogwan gadarnhad gan Bryn Williams, Gwern Gof Uchaf, bod y stori yn wir ac y byddai'n agor ei siop ym mis Gorffennaf.

Enw'r siop fydd Gig Ogwen, ac fe'i lleolir yn 72 Stryd Fawr, dros y ffordd i Siop Bells, a'r drws nesaf i Siop Gareth Lewis. Newydd da iawn i'r ardal!

Ond pam dewis yr enw 'Cig Ogwen'? Wel, yn syml, am mai cig wedi ei gynhyrchu'n lleol a werthir yn y siop newydd. Bydd Bryn ei hunan yn cyflenwi cig i'r siop, a hefyd yn prynu cig lleol drwy gwmni Cynnyrch Eryri Cyf. a ffurfiwyd gan rhyw 40 o ffermwyr lleol.

"Bydd gennym ddewis helaeth o gigoedd i'w cynnig, yn cynnwys pecynnau BBQ ac ati, yn ogystal â'r toriadau arferol," meddai Bryn.

Y newydd da arall yw mai'r un fydd yn edrych ar ôl y siop a'i chwsmeriaid fydd Gwyndaf Roberts. Fe'i cofiwch yn cydweithio gyda Kevin yn siop Thomas y Cigydd hyd at fis Gorffennaf 2004. Croeso cynnes yn ôl Gwyndaf.

Dymunwn yn dda i Bryn, sydd yn hogyn lleol - wedi ei fagu yn Nhanysgafell. Gobeithiwn y bydd yn llwyddiannus gyda'i fenter newydd. Mae'n haeddu ein cefnogaeth!

Na! Nid lIun 0 siop newydd Cig Ogwen a welwch uchad, ond lIun 0 siop gig Willie Parry, Bwtsiar, pan agorwyd hi yn 1922, gyda'r perchennog yn sefyll oddi allan. Bu siop gig ar y safle am 82 0 flynyddoedd. Byddai'n braf meddwl y gallai'r un IIwyddiant ddod i ran Cig Ogwen!!Na! Nid llun o siop newydd Cig Ogwen a welwch uchod, ond llun o siop gig Willie Parry, Bwtsiar, pan agorwyd hi yn 1922, gyda'r perchennog yn sefyll oddi allan. Bu siop gig ar y safle am 82 o flynyddoedd.

Byddai'n braf meddwl y gallai'r un llwyddiant ddod i ran Cig Ogwen!!

Diolch i Mr Bob Roberts, 6 Glan Ffrydlas a fu'n gweithio yn y siop honno o 1962 hyd at 1986 am roi benthyg y llun i'r LIais.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý