´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Côr Ysgol Tregarth Llwyddiant arbrawf
Rhagfyr 2009
Oherwydd diffyg cystadlu a chefnogaeth yn y gorffennol, penderfynodd Pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen newid ychydig ar drefn cystadlu'r Eisteddfod eleni.

Yn hytrach na chael cystadlu ar ddydd Sadwrn o fore gwyn tan berfeddion nos, fe gynhaliwyd noson o gystadlu ar y nos Wener, gyda diwrnod o gystadlu ar y dydd Sadwrn i blant ysgolion cynradd.

Ddydd Sadwrn, cychwynnodd y cystadlu am 10 gan orffen yn daclus am 5 y prynhawn. Roedd Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen dan ei sang trwy'r dydd a phawb yn gadael ar yr un pryd wedi i'r corau gloi cystadlu'r dydd.

I'r rhai ohonoch a ddaeth i Neuadd Ogwen nos Wener, 20 Tachwedd, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod y gynulleidfa wedi cael gwledd o'r dechrau i'r diwedd.

Gan fod yr Eisteddfod yn cynnig gwobrau mawr eleni ar y nos Wener, fe lwyddodd hynny i ddenu cystadleuwyr talentog iawn o bell ac agos.

Hefyd, roedd yn dda gweld ein talentau lleol yn serennu ar y llwyfan yn y cystadlaethau.

Teithiodd pedwar côr i Ddyffryn Ogwen i gystadlu yn erbyn ein corau lleol, Cororion a Chôr Meibion y Penrhyn a chafwyd noson o gystadlu gwerth chweil.

Yng nghanol y cystadlu nos Wener, cynhaliwyd seremoni'r Orsedd a da oedd gweld teilyngdod ym mhob un o'r categorïau llenyddol i goroni'r noson.

Yn ôl Lowri Roberts, Ysgrifennydd y Pwyllgor, "Mae hyn wedi bod yn garreg filltir bwysig yn hanes yr Eisteddfod leol.

"Rydym wedi llwyddo i chwyldroi'r Eisteddfod gan fynd o niferoedd cynulleidfaol bychan a siomedig a diffyg cystadlu i neuadd lawn gyda nifer dda o gystadleuwyr - rhai lleol a rhai sydd eisoes wedi llwyddo ar lwyfan cenedlaethol.

"Cawsom feirniaid adnabyddus megis Robart Arwyn a Maldwyn John hefyd.

Mae'n rhaid anelu'n uchel i lwyddo. Roedd bwrlwm nos Wener yn fendigedig - dyma'r ffordd ymlaen yn sicr."

Meddai'r Cadeirydd, Siân Esmor Rees, "Ar y cyfan, rwy'n teimlo bod y drefn newydd wedi gweithio'n eithriadol o dda.

"Mi wnaethon ni lwyddo i ddenu cystadleuwyr o safon uchel iawn ac roedd nos Wener yn noson o adloniant i'r gynulleidfa.

"Roedd Eisteddfod y plant ar y dydd Sadwrn yn llwyddiant mawr unwaith eto."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý