´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Llys Dafydd Llys Dafydd
Mai 2009
Ar ôl blynyddoedd o drafod mae'r cynlluniau i ddatblygu hen safle yng nghanol y pentref yn symud ymlaen.
Ar ôl blynyddoedd o gyfarfod er mwyn ceisio datblygu y safle gwag a adnabyddir fel "Llys Dafydd" ynghanol y Stryd Fawr, mae Cwmni Llys Dafydd wedi llwyddo hyd yn hyn i sicrhau bron i £70,000 o gefnogaeth ariannol er mwyn cychwyn ar y gwaith o greu gofod cymunedol a fydd o ddefnydd i'r pentref i gyd.

Bydd y gwaith cychwynnol o dirlunio'r safle yn cychwyn ddiwedd mis Mai eleni.

Mae'r chwarel yn garedig iawn yn cyflenwi'r holl lechi sydd eu hangen i gwblhau'r safle fel rhodd tuag at y prosiect cymunedol.

Bwriad y Cwmni a'r Cyngor Cymuned yw cydweithio i greu gofod yng nghanol y pentref a fydd yn ffocws ar gyfer bywyd cymunedol a hefyd yn fan amlwg i ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr i Ddyffryn Ogwen.

Bydd y gofod yn ardaloedd cynnwys ardaloedd i eistedd a chymdeithasu, byrddau dehongli ar gyfer ymwelwyr i Ddyffryn Ogwen gyda gwybodaeth ynglÅ·n a hanes a threftadaeth y Dyffryn, llwybrau beicio a cherdded a gwasanaethau lleol.

Bydd yno hefyd ardal ar gyfer perfformiadau awyr agored (hynny yw, llwyfan ar gyfer corau a grwpiau lleol pan fydd digwydd¬iadau achlysurol ar y safle yn ogystal a stondinau lle efallai y gellid cynnal marchnad fwyd leol, ffair Nadolig ac yn y blaen.)

Mae'r Cwmni hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o godi canopi dros ran o'r safle ac adeilad bach i gynnig lluniaeth a gwasanaethau sylfaenol yn achlysurol ar gyfer digwyddiadau cymunedol.

Mae'r pensaer Maredudd ab Iestyn eisoes wedi creu cynlluniau ar gyfer y safle ac mae cais cynllunio ffurfiol wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd.

Gobeithir y bydd y gwaith ar y safle wedi ei orffen erbyn diwedd y flwyddyn.

Er mwyn i bobl ifanc yr ardal gymryd rhan yn y prosiect, bydd Fferm Moelyci yn cydweithio gyda disgyblion o Ysgol Dyffryn Ogwen ar brosiect plannu ar y safle a bydd plant ysgolion cynradd yr ardal hefyd yn cael y cyfle i wneud gwaith celf a fydd yn canolbwyntio ar weithio efo llechen ac yn cael ei arddangos ar y safle ei hun.

Pam na wnewch chi felly ymuno a ni yn ein bore coffi yn Neuadd Ogwen ar y 4ydd o Orffennaf er mwyn gallu taro golwg manylach ar y cynlluniau yma a rhoi syniadau inni am sut y byddech chi'n hoffi gweld y gofod yn cael ei ddatblygu a'i ddefnyddio.

Os am wybodaeth bellach, mae croeso i chwi gysylltu gydag ysgrifennydd y Cwmni ar 602509.

Caren Brown


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý