´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Côr Cororion Gŵyl i'w chofio
Rhagfyr 2005
Llongyfarchiadau i Gôr Merched Cororion, dan arweiniad Beti Rhys, ar ennill y Gystadleuaeth Gorawl yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen eleni, a hynny yn eu blwyddyn gyntaf.
Côr Meibion y Penrhyn ddaeth yn ail mewn cystadleuaeth ardderchog.

Bu'r Eisteddfod yn gofiadwy iawn hefyd, i nifer o bobl ifanc y Dyffryn:

  • Rhodri LlÅ·r Evans, Erw Las, Bethesda, yn ennill y Fedal Ryddiaith
  • Elin Gwyn o Sling, Tregarth, yn ennill Medal yr Ifanc
  • Elliw Mai, y gantores ifanc o Rhiwlas, yn ennill pedair gwobr gyntaf, ac ar ben hynny daeth yn ail yng nghystadleuaeth Medal yr Ifanc.

    Llongyfarchiadau mawr iddynt, a phob hwyl i'r dyfodol.

    Cafwyd cystadlu brwd drwy'r bore a'r prynhawn ymhlith plant yr ysgolion cynradd lleol gyda Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen yn rhwydd lawn drwy'r amser. Roedd mam a dad, taid a nain, Yncl Wil ac Anti Nel, a phawb arall wrth eu bodd yn gweld y plant, o'r lleiaf i'r hynaf, yn mynd trwy'u pethau ar y llwyfan.

    Doedd y gynulleidfa ddim hanner mor niferus yn sesiwn yr hwyr, ond serch hynny, cafwyd Eisteddfod lwyddiannus eto eleni - ac fe orffennwyd yr holl weithgareddau am 11 .30!

    Diolch i bawb am yr holl waith a wnaethant i sicrhau llwyddiant yr Å´yl! Hir y parhaed y gwaith da! Hir oes i Eisteddfod Dyffryn Ogwen, sydd mor bwysig i feithrin doniau ein plant a'n pobol ifanc!


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý