Cyflwynwyd y tlws iddi, ynghyd a gwobr ariannol o £300 mewn
seremoni arbennig yng Nghanolfan Cywain, Y Bala, ar nos Fercher, 5
Awst.
Yn wreiddiol o Ohio, yr UDA, mae Meggan bellach yn byw yn Rhiwlas.
Daeth i fyw i Gymru ddwy flynedd a hanner yn ôl, a dechreuodd ddysgu
Cymraeg ddiwrnod yn unig ar ôl cyrraedd y wlad. Fis yn ddiweddarach, fe
briododd drwy gyfrwng y Gymraeg ac ar ôl blwyddyn a hanner, roedd yn
siarad gyda'i theulu yng nghyfraith yn gyfangwbl drwy gyfrwng y
Gymraeg.
Erbyn hyn, mae'n gweithio fel Cymhorthydd Dosbarth ac Anghenion
Addysg Arbennig drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Llanfairpwllgwyngyll,
Ynys Môn.
Mae Meggan i'w chanmol yn fawr ac yn haeddu pob clod!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |