´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Y King's Head Blwyddyn newydd dda
Ionawr 2007
Newyddion da
Yn ystod wythnosau olaf y flwyddyn 2006 pleser oedd gweld rhai busnesau newydd yn dod i'r ardal.
Croesawn gwmni 'Britannia' a siop 'Llyfrau Ogwen' sydd wedi agor ar y stryd fawr ym Methesda.

Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn ystod 2007, a hefyd i'r holl fusnesau presennol sy'n gweithredu yn yr ardal. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod, fel trigolion, yn cefnogi ein masnachwyr lleol. Dymuniadau da hefyd i Mary a Richard Owen (Bers) sydd bellach wedi cymryd tenantiaeth y 'King's Head', ar ei newydd wedd.

Newyddion da hefyd yw cael gwybod bod cynlluniau ar y gweill i adeiladu 'Canolfan Iechyd' newydd i'r ardal, fydd yn cynnwys meddygfa a fferyllfa yn ogystal a gwasanaethau amrywiol eraill yn ymwneud ag iechyd. Mae'r ganolfan newydd i'w hadeiladu ar y tir o flaen y Clwb Rygbi, ym mhen draw Ffordd Stesion. Mae'n gynllun uchelgeisiol sy'n mynd i weddnewid y gwasanaeth yn Nyffryn Ogwen. Gobeithir gallu cynnwys copïau o'r cynllun yn y Llais fis nesaf. [Gol.]

Newyddion drwg
Mae 'Banc Lleol y Byd', yn ôl broliant HSBC eu hunain, wedi penderfynu troi cefn ar drigolion a busnesau lleol Dyffryn Ogwen.

Maent wedi cyhoeddi y byddant yn cau drysau eu cangen ym Methesda am y tro olaf ar Chwefror 27. Golyga hyn na fydd gennym fanc o gwbl i'n gwasanaethu o fewn y dyffryn - ac mae llawer iawn o bobl yn gandryll gyda HSBC oherwydd hyn.

Mae Cyngor Cymuned Bethesda yn teimlo'n gryf iawn ar y mater, ac fe anfonwyd dirprwyaeth o dri chynghorydd, sef Ann Williams, Godfrey Northam a Neville Hughes i gyfarfod y rheolwr, Mr Phil Hughes, i ofyn os oedd modd i'r banc ail-ystyried eu penderfyniad, ac efallai agor am lai o oriau.

Yr ateb a gafwyd oedd bod y penderfyniad i gau wedi ei wneud ac yn ddi-droi'n ôl. Mae Cyngor Cymuned Bethesda wedi cefnogi banc lleol bob amser ond yng ngoleuni'r sefyllfa ddiweddaraf bydd y Cyngor yn rhoi ystyriaeth ddwys i'w drefniadau bancio yn y dyfodol.

Mae 'na rai wedi bod yn ymgyrchu'n frwd yn erbyn cynlluniau'r HSBC gyda Mrs Gina Griffiths, Caffi Ogwen, wedi trefnu deiseb sydd a rhai cannoedd o enwau arni eisoes.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý