´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Gareth ac un o'r plant O Gymru i Genia
Mawrth 2010
Erbyn hyn mae Gareth de Waart yn Nakuru yng Nghenia ers lonawr 14.

Mae'n siŵr eich bod yn cofio'r hanes mewn rhifyn cynt o'r Llais.

Ar y pryd roedd angen i Gareth godi dros £3,000 iddo gael ei dderbyn gan yr elusen Changing Worlds.

Felly yr Affrig ac nid y brifysgol oedd yn hudo. Mae Gareth yn aros ar lan Llyn Nakuru sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Cenia, ond nid ar saffari y mae Gareth ond yn gwarchod a dysgu mewn cartref i blant amddifad.

Yn y cartref mae tri chant o blant rhwng tair a deunaw oed.

Ar yr ail o Chwefror rhoddodd ei wers Saesneg gyntaf i chwe deg o blant.

Diolch bod Gareth wedi mynd a llawer o offer ac adnoddau a brynwyd gyda'r arian noddedig gydag ef.

Bydd Gareth yno am chwe mis, a gan nad yw'n derbyn cyflog mae'n hunan-gynhaliol tra'n gwneud ei orau i rai llai ffodus nag ef. Felly, mae'r apêl yn dal yn agored.

Braf oedd gwe/d y gymdeithas o'n cwmpas yn rhoi mor hael tuag at yr ape/.

Do, fe godwyd y swm oedd ei angen, a dymuna'r teulu ddiolch i bawb a weithiodd ac a gyfrannodd tuag at roi cymorth i blant Nakuru.

Fe hoffai Gareth diolch yn arbennig i'r hogia', Osian, Amos, Ifan a Sam am gerdded gyda ef yn ddirwgnach ar y daith noddedig i ben yr Wyddfa, ac i Anti Dot a Gwerfyl Owen am gasglu arian.

Hefyd, pawb a ddaeth i'r Barbeciw yn y glaw. Diolch i Linda ac Arwel, Helen a Dylan, Rita a Peter, Glenys Rowlands (Nain) ac Angela Jones am drefnu.

Diolch yn arbennig i Martin Ryder am ddisgo ac ocsiwn arbennig o hwyliog. Diolch i Sara (chwaer), Rachael a Holly, a chronfa disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen am wneud a gwerthu cacennau.

Ar ôl y Nadolig cafwyd noson arbennig iawn gan Hogia'r Bone yn y Clwb Criced. Diolch i Twm, Phill a Waiter am drefnu noson fythgofiadwy a diolch i Antony Roberts a Barry Davies am ganu a chwarae'r gitâr mor grefftus.

Hoffai Gareth ddiolch i'r holl noddwyr, tai-tafarnau Pen-y-Brenin a'r Victoria, a phawb sydd wedi cyfrannu neu helpu mewn unrhyw ffordd.

Diolch o galon i chi i gyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý