´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Y tîm yn dathlu Pencampwyr rygbi
Mai 2010
Ar ddiwedd tymor 2009-10, mae tîm cyntaf Clwb Rygbi Bethesda yn bencampwyr Adran 2 Gogledd o Gynghrair SWALEC ac wedi ennill dyrchafiad i Adran 1 y tymor nesaf.

Drwy guro Machynlleth i ffwrdd o 56 pwynt i 17 sicrhaodd Bethesda y pwyntiau oedd yn golygu na allai'r un tîm arall yn yr adran ennill y bencampwriaeth.

Mae'r tymor wedi bod yn un hynod lwyddiannus - heb golli yr un gem i ffwrdd o Dôl Ddafydd, mynd drwodd i 8 olaf Bowlen SWALEC a dim ond colli un gem gynghrair (o 1 pwynt yn unig).

Yr hyn sydd wedi bod yn galonogol y tymor yma ydi safon y rygbi sydd wedi cael ei chwarae.

Daeth y chwaraewyr at ei gilydd fel un y tymor yma - hogia lleol i gyd a phawb yn credu bod y tîm yn haeddu chwarae ar lefel uwch.

Mae'r arweiniad ar y cae gan y capten, Paul Thomas wedi yn allweddol i lwyddiant y tymor.

Ar ôl y siom o golli o 1 pwynt yn erbyn y Bala sylweddolodd y chwaraewyr mai gem tîm ydi rygbi ac mae'r cydchwaraewyr wedi hynny wedi bod yn wefreiddiol ar brydiau.

Mae diolch yn ddyledus i'r hyfforddwr WiIl Sandison, cyn- chwaraewr i'r clwb, am osod sylfaen gadarn i'r blaenwyr a Keith Withers, cyn-chwaraewr arall, am roi trefn ar yr olwyr.

Da iawn chi hogia' Pesda a phob hwyl y tymor nesaf. (Llais Ogwan)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý