´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Ysgol Penybryn Y wobr gyntaf
Mehefin 2009
Cychwynodd llond bws ohonom am hanner dydd ar ddydd Sul Gŵyl y Banc yn blant, rhieni ac athrawon i gystadlu gyda'r côr yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.

Siwrne braf iawn a gawsom ar hyd y ffordd a theimlai pawb yn hynod ddiogel a chysurus ar y bws gwyrdd gyda Mr Jackson wrth y llyw.

Roedd cynnwrf ymysg pawb yng ngwesty moethus 'Premiere Inn' y bore canlynol, a'r plant a Mrs Lloyd ar dan eisiau cyrraedd y rhagbrawf.

Roedd pawb yn edrych yn hynod o swel yn eu crysau cochion a doedd dim blewyn o'i le yn unman.

I ffwrdd a llond bws o'r côr a'u cefnogwyr am y rhagbrawf a phawb yn croesi bysedd am Iwc dda.

Yn wir, daeth lwc a llwyddiant i'n rhan pan glywyd fod Ysgol Penybryn wedi cyrraedd y llwyfan. Boddwyd y neuadd wrth i bawb weiddi'n groch wedi llawenhau!

Canodd y côr ar lwyfan enfawr Canolfan y Mileniwm gan swyno'r gynulleidfa gyda'u sain pur a pheraidd.

Yn ddi-os, doedd dim amheuaeth yn llygaid y beirniaid, nac yn llygaid trigolion Bethesda a'r fro mai Ysgol Penybryn oedd yn llwyr haeddu'r wobr gyntaf.

Hoffem longyfarch holl blant y côr a Mrs Ceren Lloyd am eu buddugoliaeth yn Eisteddfod yr . Urdd, Caerdydd.

Dwi'n siŵr y bydd Y dathlu'n parhau yn Ysgol Penybryn am rai dyddiau eto - "Parti i'r plant, plis Mrs Lloyd?"...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý