Mae Ann Catrin Evans, neu Ann Bryn Cul (Tregarth) i'r rhai hynny sy'n ei hadnabod, wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad y Ganolfan. Dechreuodd drwy lunio'r allwedd a fyddai'n agor y drws am y tro cyntaf, a bu hwnnw ar daith yn pasio trwy ddwylo blaenllaw ein cenedl, yn berfformwyr, gwleidyddion a cherddorion. Bu'r allwedd yn Efrog Newydd yng nghwmni Bryn Terfel cyn teithio trwy Baris, St Petersburg, Salzburg, yr Eidal, De Affrica a Siapan cyn dychwelyd i Gymru. Ond mae ei chyfraniad yn mynd ymhellach oherwydd hi fu'n gyfrifol am yr handlenni drysau a'r platiau gwthio ar y prif ddrysau. Mae'r handlenni yn atgoffa rhywun o'r crymannau a ddefnyddid gan hen ffermwyr Cymru slawer dydd, ac mae'r platiau wedi'u creu'n hynod gelfydd allan o haearn ac yn adlewyrchu grym a phrydferthwch dŵr gyda'r rhychau arnynt yn hynod debyg i'r creithiau ar y tywod ar ôl y trai. Dywed Ann iddi ffurfio'r platiau gyda'i llaw rydd ac felly dylent deimlo'n dda i'r sawl a fydd yn cyffwrdd ynddynt. Ar ôl graddio gydag anrhydedd ym Mhrifysgol Brighton, astudiodd Ann Catrin Goed, Metel, Serameg a Phlastigau. Arbenigodd mewn creu addurniadau drws traddodiadol a gwreiddiol mewn haearn, ond parhaodd i greu mewn amryfal gyfryngau, megis gemwaith, offer, dodrefn yn ogystal a phrosiectau cyhoeddus ar raddfa fawr. Enillodd wobrau dirifedi megis y fedal aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2002, Gwobr Merched mewn Busnes a Bwrsari Cyngor Celfyddydau Cymru. Gwerthir ei gwaith ledled y byd. Cydnabyddir Ann bellach ar lwyfan rhyngwladol, ac mae ei chyfraniad i Ganolfan y Mileniwm nid yn unig yn tanlinellu hyn, ond hefyd yn gwbl haeddiannol. Mae gan ei gwaith bresenoldeb pwerus, tra'n llwyddo i fod yn gynnil a syml, yn wreiddiol ac yn heriol. Felly, os cewch gyfle i ymweld a'r Ganolfan, cofiwch, wrth agor y drysau, fod tipyn bach o'r ardal y tu ôl i'r wledd weladwy sydd o'ch blaen.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |