´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Cameron Thomas Profiad digon o sioe yng Nghwpan y Byd
Gorffennaf 2006
Cafodd Cameron Thomas, 7 oed o 36, Caeau Gleision, Rhiwlas, brofiadau digon o sioe yn ddiweddar.

Tydio erioed wedi bod mewn gêm bêl-droed, a wyddoch chi be? Fe enillodd wobr gyda chwmni McDonalds a chael ei ddewis yn un o 22 o blant a gerddai fel mascots allan ar y cae gyda'r pêl-droedwyr, yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd 2006, a gynhaliwyd yn yr Allianz Arena ym Munich, Yr Almaen ar 5 Mehefin.

Timau Ffrainc a Portiwgal oedd yn chwarae y diwrnod hwnnw ac enillodd Ffrainc 1-0.

Daeth Cameron ar y cae gyda thîm Ffrainc a gafaelai yn llaw Claude Makelele wrth i'r Anthem Genedlaethol gael ei chanu. Roedd 59,000 o gefnogwyr pêl-droed yn yr arena y diwrnod hwnnw. Cameron, trydydd o'r chwith, gyda thîm Ffrainc

Wrth reswm roedd Cameron wedi cyffroi yn llwyr, yn enwedig pan gafodd hefyd gyfarfod a'r enwog Geoff Hurst, arwr tîm pêl-droed Lloegr yn 1966.

Braint

Roedd hi'n fraint medda fo i gael cerdded ar y cae gyda phêl-droedwyr megis Zinedine Zidane, Patrick Viera a Thierry Henry.

A chan ei fod yn gefnogwr tîm Manchester United edrychai mlaen i gael cyfarfod â Louis Saha.

Profiad bythgofiadwy

Teithiodd Cameron i'r Almaen gyda'i dad Paul a oedd wedi cynhyrfu llawn cymaint a'i fab!

Profiad bythgofiadwy a phrofiad anhygoel i fachgen bach 7 oed o Rhiwlas.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý