´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Gwynfor ap Ifor Yn y pafiliwn pinc
Medi 2006
Profiad Gwenda Davies ym mhafillwn newydd pinc yr Eisteddfod, bnawn Gwener, Awst 11, 2006:
Mae'n flynyddoedd ers i mi fod i mewn ym mhafiliwn yr Eisteddfod ar gyfer un o'r Seremonïau mawr.

Felly, eleni, a hithau'n dipyn o dywydd tu allan, dyma benderfynu y byddwn yn ploncio fy mhen ôl ar gyfer Seremoni y Cadeirio.

Cefais sedd ochr yn y Pafiliwn, a chyn pen dim roedd pob sedd o'm cwmpas yn llawn, a hen edrych ymlaen at glywed y feirniadaeth yn cael ei thraddodi'n ddi-bapur gan yr anfarwol Dic Jones.

'Gweno' ddaeth i'r brig, ac yn ôl Dic byddai ef wedi gwirioni o fod wedi sgwennu'r awdl hon.

Pwy fyddai'r Prifardd y bu cymaint o ganmol iddo tybed? Pawb ar flaen eu seddau i sain y Cyrn Gwlad.

Yna distawrwydd, a chlapio uchel o dueddau cefn y Pafiliwn, a phawb ar eu traed.

'Pwy ydio?' o'm sedd ochr. Edrychais ddwywaith. la, Gwynfor ap Ifor, Sling! Roedd hen neidio a gweiddi a chlapio a rhai o'n cwmpas yn holi 'Da'ch chi yn ei nabod o?' (yn Saesneg, Abertawe, a dweud y gwir), 'Ei nabod o, wel ydan siŵr, tydio'n byw yn ein pentra ni!'

Toes ond un gair i'w ddweud wrtho - Gwych Gwynfor - Rwyt bellach yn 0riel Anfarwolion y Prifeirdd! Diolch am fod yn rhan o'r Seremoni

Gwenda


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý