´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Ceg Galw am Fenter Iaith i Ddyffryn Ogwen
Mai 2007
"Mae ymdrechion i geisio sefydlu Menter laith i Ddyffryn Ogwen, a'r gobaith yw y gwelwn hyrwyddwyr iaith yn gweithio o swyddfa yn Stryd Fawr Bethesda.
Mae menter o'r fath yn gwbl hanfodol er mwyn cynorthwyo gyda'r gorchwyl o gynnal ac adfer Cymreictod y fro.

Mae Menter laith Gwynedd yn dod o dan ofal Cyngor Gwynedd, a'r gobaith yw y bydd gweithredu trefn ddatganoledig gyda sefydlu mentrau iaith lleol ledled y sir. Mae gweithredu o fawn y gymdeithas leol yn allweddol i gynnal a chryfhau'r iaith, a byddai'n gam sylweddol ymlaen pe bai Dyffryn Ogwen yn cael Menter Iaith cae yn llunio rhaglen gynhwysfawr i gwmpasu'r ardal gyfan a sicrhau bod gan bawb gyfraniad.

Mae'r farn wybodus yng Nghymru, gan gynnwys Bwrdd yr laith Gymraeg a Llywodraeth y Cynulliad, yn gytun ynglŷn â'r ffactorau sy'n tanseilio'r iaith Gymraeg.

Ymhlith y ffactorau mwyaf dylanwadol mae'r mewnlifiad Saesneg ei iaith; allfudiad siaradwyr Cymraeg; nifer gynyddol o aelwydydd sydd ag un o'r rhieni'n ddi-Gymraeg yn magu plant yn Saesneg; a dylanwad hollbresennol y diwylliant Eingl-Americanaidd Saesneg aml-gyfrwng.

Amcanion Menter laith Dyffryn Ogwen fyddai meithrin agwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg, hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd pobl Dyffryn Ogwen, cyflwyno'n hiaith i deuluoedd di-Gymraeg, a chreu bwrlwm adloniadol a diwylliannol Cymraeg yn yr ardal, gyda phwyslais arbennig ar weithgareddau plant a phobl ifanc.

Rhaid dod a chyffro newydd i'r bywyd Cymraeg yn Nyffryn Ogwen, a'r unig ffordd a wneud hynny yw trwy'r plant a'r bobl ifanc. Mae angen datblygu ffurfiau diwylliannol Cymraeg newydd a fyddai'n codi o ddiddordebau'r plant a'r bobl ifanc eu hunain, a byddai sefydlu panel pobl ifanc yn hanfodol fel man cychwyn.

Rhan hanfodol o'r fenter fyddai sefydlu Fforwm Bro a fyddai'n cynnull cynrychiolwyr cymdeithasau lleol a'r ysgolion i hybu gwaith y fenter. Rhagwelir mai amcanion y fforwm fyddai creu brwdfrydedd a denu trigolion yr ardal i mewn i'r gweithgarwch yn ei holl agweddau, a hynny trwy ledaenu gwybodaeth am weithgareddau a datblygiadau, dosbarthu deunyddiau, a chynorthwyo'r hyrwyddwyr iaith gyda threfnu a chynnal gweithgareddau."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý