´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Plant yn defnyddio cyfrifiaduron yn y gwe-gaffi Agor Gwe-Gaffi Pesda Roc
Mai 2004
Erbyn hyn mae Gwe-Gaffi Pesda Roc wedi agor ei ddrysau yn 5 Rhes Ogwen o dan adain Cwmni Tabernacl (Bethesda) Cyf. Dymunwn yn dda i'r fenter.
Dyma symudiad cadarnhaol i gefnogi ein pobl ifanc, a bydd y ganolfan yn siŵr o ddatblygu'n fan ymgynnull gwerth chweil iddynt.

Bydd yno gyfle i ennill a meithrin sgiliau newydd yn hytrach na chrwydro'r stryd yn ddiamcan fin nos, a'r bwriad yw darparu cyrsiau amrywiol yn y Gwe-Gaffi maes o law.

Mae'r ymateb cychwynnol yn galonogol, gyda'r ieuenctid yn tyrru i'r Gwe-Gaffi ac yn treulio amser hamdden pwrpasol yno yng nghwmni ei gilydd.

Defnyddir y lleoliad hefyd gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr ar gyfer cynnal cyrsiau. Ar hyn o bryd mae cwrs Technoleg Cerddoriaeth bob nos Fawrth rhwng 6.30 a 9.30 o'r gloch, a chwrs ar Chwedlau Cymreig dan ofal Mr Gwynne Wheldon Evans bob pnawn dydd Gwener rhwng 12.00 a 2.00 o'r gloch. Gobeithir hefyd gychwyn cwrs Ffotograffiaeth Ddigidol yn fuan.

Mae croeso cynnes iawn i bawb o bob oed yn y Gwe-Gaffi, a'r oriau agor ar hyn o bryd yw:

Nos lau 6.00 - 9.30
Nos Wener 6.00 - 10.00
Dydd Sadwrn 2.00 -10.00
Dydd Sul 2.00 - 5.00

Mae croeso i unrhyw un alw i mewn am sgwrs yn ystod yr oriau agor efo Rheolwr y Gwe-Gaffi, Dion Hughes o Lanllechid a Delyth Vaughan, Swyddog Datblygu'r Cwmni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý