´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Dawnswyr Dyffryn Conwy Dathliadau'r Hen Galan
Chwefror 2004
Cafwyd noson liwgar a hwyliog yng Ngwesty'r Eryrod, Llanrwst ar Ionawr 17eg pan ddaeth Dawnswyr Dyffryn Conwy a'u cerddorion, ynghyd â Chwmni'r Fari Lwyd i ddathlu'r Hen Galan Cymreig.
Roedd y dyddiad wedi newid oherwydd llifogydd ar y 7fed o'r mis.

Ffurfiwyd Dawnswyr Dyffryn Conwy i gystadlu yng Ngŵyl Gerdd Dant Dyffryn Conwy ym mis Tachwedd, dan hyfforddiant Dr Prydwen Elfed-Owens. Mae'r cwmni wedi dyblu i 12 mewn nifer erbyn hyn, sef Gwyn Ysgol Landdoged, Dafydd Ysgol Dolwyddelan, Ifan Ysgol Betws, Derfel Ysgol Ro-wen, Dilwyn Ysgol Porth y Felin a Derfel Ysgol Tudno; Bethan a Vivienne Ysgol Craig y Don, Branwen Ysgol Llanddoged a Nerys, Ann a Delyth Ysgol Bro Gwydir.

Bu'r Dawnswyr yn perfformio pedair dawns, gydag eitemau rhwng y dawnsfeydd gan y cerddorion - Rhian Bebb o Fachynlleth, Geraldine Tunstall o Gwm Penmachno, Dafydd Huw o Lanrwst, Geraint Fôn o Eglwysbach, Derfel Thomas o Fochdre - a gan ddawnswyr ifanc dawnus iawn megis Meinir Siencyn o Lanrwst, Anna Pardanjac o Landrillo-yn-rhos, Hannah Rowlands o Eglwysbach a grŵp o ddawnswyr a hyfforddwyd gan Hannah o Ysgol y Creuddyn.

Yn dilyn swper, daeth yn amser i'r Fari Lwyd ddod i ddiddanu. Chwech o brifathrawon Sir Conwy - yr uchod ynghyd ag Arwel Ysgol Nant y Coed, oedd yn gyfrifol am yr hwyl a'r stŵr, a chafwyd gwerth arian o hwyl yn gwylio'r 'antics'!

Wedi hwyl y Fari Lwyd, roedd cyfle i bawb gael dawnsio gwahanol ddawnsfeydd gwerin gyda Dr Prydwen Elfed Owens yn galw - pawb wedi mwynhau yn fawr!

Dennis Davies oedd yn cadw trefn ar y noson, a'r trefnyddion oedd Maureen Hughes ag Eira Jones.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý