´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Elfrys ac Arwel yn nawns Cadi Ha Dathlu'r Hen Galan
Ionawr 2006
...a dyfodiad y Fari Lwyd
Fore Gwener, Ionawr 6ed daeth rhan o raglen Hywel Gwynfryn o westy'r Eryrod, Llanrwst, ble cafwyd trafodaeth ar arferion dathlu'r Hen Galan.
Bu Arwel Jones gynt o grŵp canu Hogiau'r Wyddfa yn sgwrsio gyda threfnyddion a chwmni'r Fari Lwyd fyddai'n dathlu yn y gwesty'r noson honno.

Cafwyd cyfraniad gan y Dr Prydwen Elfed Owens, Dennis Davies, Nerys Thomas, Gwynn Griffiths, Derfel Griffiths, Aeryn Jones a gan un o Stepwyr y Dyffryn, Hannah Rowlands o Ysgol y Creuddyn.

Daeth tyrfa dda i'r gwesty nos Wener i ddathlu'r Hen Galan am y bedwaredd flwyddyn yn olynnol. Arweinydd y noson oedd Mr Dennis Davies a gyflwynodd Band Gwerin Cymreig Sir Conwy oedd yn cynnwys tair telyn, dwy ffidil, drwm, gitar a phiano.

Cafwyd rhaglen amrywiol iawn gan y cwmni - i agor y noson cafwyd perfformiad anhygoel o'r ddawns 'Cadi Ha' gan Ddynion Dawnswyr Sir Conwy oedd yn berfformiad lliwgar a hynod o broffesiynol.

Wedyn daeth parti dawns disgyblion Ysgol Bro Gwydir, Llanrwst - pob un mewn gwisg draddodiadol ac roeddynt yn amlwg wrth eu bodd a'r rhieni a'r gynulleidfa yn dotio. Hyfforddwyd hwy gan Mrs Nerys Thomas.

Ffurfiwyd Dawnswyr Sir Conwy ar gyfer cystadlu yng Ngŵyl Cerdd Dant Conwy yn Llandudno ychydig dros flwyddyn yn ôl ac fe'u hyfforddir gan Prydwen Elfed Owens; maent wedi mynd o nerth i nerth ac mae galw mawr am eu gwasanaeth.

Yn ystod y noson cawsom berfformiadau lliwgar a llawn afiaeth o'r Gelynnen (yn cynnwys clamp o gangen addurniedig oedd yn cael ei chario gan Anna Pardanjac, un o Stepwyr y Dyffryn y Dyffryn! Aberdaugleddau, Ceiliog y Rhedyn, Meillionen, Dafydd Gain, Hoffed ap Hywel, Pont y Bermo a Dawns Gwyl Ifan.

Cafwyd unawdau a deuawdau gan Gwawr Mills a Derfel Thomas.

Roedd grŵp stepio Hannah Rowlands (Stepwyr y Dyffryn - Lowri, Katie, Anna a Hannah) yn arbennig iawn ac yn gwneud i'r grefft o ddawnsio mewn clocsiau ymddangos yn hawdd iawn! Roedd Mr Euryn Jones, Llangwm yn ei hwyliau arferol yn dweud storiau.

Roedd 'Dawns Garu Ynys Manaw' yn gofyn am actio yn ogystal â dawnsio a chafwyd mwynhad o wylio'r ddau bâr fu'n ei dawnsio.

Y Fari Lwyd
Castell Cricieth Yn oes ein cyndeidiau roedd cyfnewid y tymhorau i'w weld fel rhywbeth gwyrthiol na ellid yn hawdd ei egluro. Fe wyddom ni mai trefn naturiol sy'n gweithredu pan welwn y gwanwyn yn dilyn gaeaf, a hydref yn dilyn haf.

Ychydig iawn a wyddai ein hynafiaid am y pethau hynny. Ni wyddent am y deddfau natur a rydd inni fellt a tharanau, glaw a sychder, haf a gaeaf. Ac felly credent mai ymyrraeth uniongyrchol bod neu fodau goruwchnaturiol oedd yn gyfrifol.

Rhannai'r hen bobl gynt y flwyddyn yn ddwy - ar y nail law tymor du y gaeaf, pan odd yr haul yn wanllyd, Calan Gaeaf oedd dechrau'r tymor hwn. Ar y llaw arall, cyfnod heulwen a llawenydd a ddeuai gyda Chalan Mai. Y ddau galan hyn yw dau begwn llên gwerin y tymhorau yng Nghymru. O'u cwmpas tyfodd llu o goelion ac arferion.

Ond daeth Cristnogaeth yn gynnar gyda'i dyddiau gŵyl hi i wneud ein dehonglaid o hanes llên gwerin yn anos. Yn 1752 diwygiwyd y calendr a rhoddwyd pwysigrwydd newydd i Galan Ionawr, sef y cyntaf o'r mis. Ond hyd at y flwyddyn honno, y 12fed o Ionawr oedd y calan hwnnw a elwir yn hen Galan gennym heddiw. Denodd y cyfnod o ddydd Nadolig hyd ddydd Gwâyl Ystwyll (Ionawr 6ed) lawer o hen arferion ac yn eu plith ddyfodiad y 'Fari Lwyd'.

Cymerir penglog ceffyl a'i gorchuddio â lliain gwyn a gosod rhubanau amryliw yn addurn, a llygaid gwydr ynddi. Gosodir darn o bren yn asgwrn yr ên fel y gellir symud hwnnw i fyny ac i lawr. Gosodir y pen hwn ar ben dyn, y lliain gwyn yn gorchuddio ei gorff ac yntau'n symud y pren yn barhaus. Fe'i harweinir gan yr Ostler a'i dilyn gan gwmni. Ânt o dŷ i dŷ, gan ganu penillion a fwriedir i fod yn fyrfyfyr a phob pennill i'w ateb gan drigolion y tŷ. Wedi dadlau neu 'bwnco' bydd cwmni'r Fari Lwyd yn cael mynediad i'r tŷ a byddai yno gyfeddach, gwledda ac yfed. (Allan o Diwylliant Gwerin Cymru, Iorwerth Peate)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý