Pleser digymysg oedd bod yn bresennol yn Neuadd Betws-y-coed ar Fercher a Iau olaf Chwefror. Dyma enghraifft o ddiwylliant cefn gwlad Cymreig ar ei orau.
Ar y nos Fercher gwelwyd perfformiadau gan dri chwmni hynod brofiadol. Dechreuwyd gyda chwmni enwog Padog yn cyflwyno'r ddrama seriws 'Ar Ymyl y Dibyn' gan J.R. Evans.
Gwelwyd perfformiad dwys a herfeiddiol gan Guto yn arddangos cymeriad wedi colli'i bwyll ac yn siarad gyda'r 'meirwon'. Hafwen wedyn mewn colur du fel y fran, yn ferch yn chwilio am loches yng Nghymru - sefyllfa gyfoes fawn yng ngwledydd Prydain y dyddiau hyn. Yna'r milwyr wedi canfod drama arall i ddefnyddio'r gwisgoedd milwrol sydd yn eiddo'r cwmni.
Dechrau solat a chadarn i'r Wyl! Yna, newid yn syth i ffars gan gwmni Penmachno Y Loteri gan Emrys Owen. Heddwyn, fel Enoc, yn chwaraei ran yn ardderchog gan amserun finiog. Roedd Deiniol wrth ei fodd pan gyrhaeddodd y ddwy chwaer fel fisitors i'r ffermdy. Sefyllfa ddigrif gydag amseru siarp gan yr holl gwmni.
Comedi oedd y trydydd perfformiad - 'Corffw' (Peter Hughes Griffith) gan gwmni Nebo. Dei John yn mynnu tynnu llond bol o chwerthin wrth bortreadu Isaac, y gwas a ddaeth yn feistr tros dro ac Eleri yn chwarae rhan y fatriarch yn ardderchog. Perfformiad hwyliog fawn i ddod a'r noson gyntaf i ben, gan wneud i'r Neuadd orlawn fynd adref gan Iwyr edrych ymlaen at yr ail noson - nos drannoeth.
Ar y nos Iau, daeth yr ieuenctid i'r amlwg. Cwmni Aelwyd yr Urdd, Llanrwst yn neidio'n ddeheuig fawn yn 么l ac ymlaen o'r llon i'r lleddf, gan gadw rheolaeth dynn ar eu hemosiynau ac emosiynau'r gynulleidfa. Pwy ond Ffermwyr Ifanc Ysbyty Ifan a fyddai'n mentro cyflwyno drama mor ddoniol a 'Helynt ar Fuarth Arall'? Ni wn a fu i'r criw gadw'n union at y sgript ond bu i bawb gael llond bol o chwerthin iachus.
Yna, daeth Capel Curig i'r llwyfan i gyflwyno 'Mama Mia', eto gan Gwion a Meinir Lynch. Cafwyd actio grymus yma gyda phob aelod o'r criw yn cydweithio'n arbennig o dda gyda'i gilydd. Nodwyd hynny gan y Beirniad swyddogol - y Foneddiges Mair Penri o'r Parc. Yn wir, y nodwedd yma o gydweithio a enillodd y darian fuddugol i Gapel Curig am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dyfarnwyd Nebo a Phadog yn gydradd ail a Phenmachno'n drydydd gydag Elfed Williams o Badog yn Gynhyrchydd Gorau'r Wyl. Yn yr Adran Ieuenctid, ni fu i Mair Penri fedru cael trwch asgell gwybedyn rhwng y ddau gwmni, a rhannwyd y wobr fuddugol rhyngddynt.
Actores fwyaf addawol yr Wyl eleni oedd Alwen am ei pherfformiad ardderchog fel 'Lorraine' yn nrama'r Ffermwyr Ifanc.
Llongyfarchiadau mawr fawn i bawb a fu'n llwyddiannus ac, yn wir a gynorthwyodd mewn unrhyw fodd i gael Gwyl o safon. Peth braf oedd bod yn dyst i oriel lawn o ieuenctid yn mwynhau pob eiliad.
Ifor Glyn Ifans