´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Cigydd Gwobrau Aur i Gigyddion
Ebrill 2006
Cafodd pum cigydd o Gonwy lwyddiant mawr mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Hybu Cig Cymru, gan ennill 33 o Wobrau Aur rhyngddynt am eu cynhyrchion o ansawdd uchel.

Enillodd 0 E Metcalfe o Lanrwst 9 Gwobr Aur yn ogystal â chwpan am ennill y brif wobr yng nghategori'r Pastai Oer Arbennig. Enillodd Wobr Aur am bastai heliwr a phastai porc, a enillodd brif wobr y categori.

Yn ogystal enillodd Wobr Aur am selsig porc traddodiadol; selsig porc a nionod caramel; selsig cig oen, cennin a rhosmari a selsig pore, pupur du a pherlysiau. Enillwyd Gwobrau Aur hefyd am roliau selsig, byrgyrs cig eidion a bacwn cartref.

Y nesaf i'r llwyfan oedd Arwel L Jones o Lanrwst a enillodd 6 Gwobr Aur am selsig porc traddodiadol; selsig mel a mwstard; selsig cig oen, garlleg a rhosmari; byrgyrs cig oen; byrgyrs porc a bacwn cartref.

Enillodd John Williams o Lanfairfechan 4 Gwobr Aur am selsig porc traddodiadol; pastai porc; pastai twrci a ham a phastai stêc a nionod.

Cipiwyd 4 Gwobr Aur gan Alun Jones o Gerrigydrudion am bryd parod o ffagots, erfin, tatws a phys; byrgyrs cig eidion; byrgyrs cig oen a Ffyn Grilio Cig Eidion Barbeciw.

Yr olaf i'r llwyfan oedd Edwards Conwy a enillodd 10 Gwobr Aur. Roedd chwech o'r rheini am wahanol selsig: selsig porc traddodiadol; selsig heb lwten; selsig porc a chili; selsig Cig Oen Cymru a chennin; selsig Cig Oen Cymru a chili a selsig Cig Oen Cymru, rhosmari a garlleg.

Yn ogystal enillodd Wobr Aur am bastai heliwr, byrgyrs cig eidion, byrgyrs porc a bacwn cartref.

Cafodd 279 o gynhyrchion - mwy nag erioed o'r blaen - eu cyflwyno gan y cigyddion annibynnol mewn cystadleuaeth gref ar gyfer gwobrau mewn deuddeg categori.

Cynhaliwyd cystadleuaeth HCC am Arloesiad a Rhagoriaeth mewn Cynhyrchion Cig i Siroedd y Gogledd yng Nghanolfan Gynadledda Gogledd Cymru, Llandudno, yn ddiweddar.

Dywedodd Graham Titchener, Swyddog Marchnata HCC: "Roedd ansawdd y cynigion o ogledd Cymru'n uchel dros ben ac roeddem wrth ein bodd ein bod wedi cael y nifer fwyaf erioed o gynigion.

"Mae gan gigyddion feddwl uchel o'r digwyddiad ac roedd eu cynigion yn dangos y dewis anhygoel o gynhyrchion creadigol newydd sy'n cael eu cynhyrchu gan gigyddion annibynnol Cymru, pob un wedi ei greu a'r defnyddiwr mewn golwg."

Gwahoddwyd beirniaid o'r radd flaenaf o bob cwr o'r DG i flasu'r selsig, pasteiod, byrgyrs, prydau parod a bacwn a gamwn cartref a gafodd eu cynhyrchu gan 31 o gigyddion annibynnol ledled y gogledd.

Roedd y categorïau'n cynnwys amrediad da o gynhyrchion llawn dychymyg megis selsig cig eidion, chili a phupurau coch yn ogystal â hen ffefrynnau megis Hotpot Cig Oen.

Cyflwynwyd 1540 Wobrau Aur ar y noson, ac aeth nifer o gigyddion o bob rhan o'r gogledd adref a gwobrau Aur, Arian ac Efydd.

Gwahoddir enillwyr y gwahanol gategorïau o'r deg a'r gogledd i gyflwyno'u cynhyrchion i'w hystyried ar gyfer teitl Pencampwr Cymru mewn digwyddiad a drefnir gan HCC yn ddiweddarach yn y flwyddyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý