´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Dafydd Chilton Taith feic i Batagonia
Mawrth 2009
Ar ddydd Mawrth 31ain o Fawrth 2009 bydd Dafydd Chilton yn codi arian i Menter Patagonia gan reidio'i feic o Fae Caerdydd i Fae Colwyn, cyfanswm o 195 milltir, ac mae o am ei gyflawni mewn 15 awr.

Mae'n chwilio am noddwyr i godi arian ar gyfer y Fenter Iaith ar ochr arall y byd, felly os ydych eisiau cyfrannu cysylltwch a 01492 642357, iwan@mentrauiaith.cymru247.net neu gyrrwch sieciau yn daladwy i Menter Patagonia i Menter Patagonia, d/o Y Sgwar, Llanrwst, Ll26 0LG.

Bydd y daith yn dechrau ym Mae Caerdydd am 4.30yb ac yn teithio drwy Merthyr Tydfil, Aberhonddu, Llanfair ym Muallt, Llandrindod, Y Drenewydd, Y Trallwng, Y Bala, Llanrwst ac yn gorffen ym Mae Colwyn am tua 9.30yh.

Dywedodd Dafydd, cyfieithydd ar liwt ei hun sydd yn byw yn Llangernyw ger Llanrwst: "Rwyf wedi bod yn beicio ers tua chwe mlynedd erbyn hyn ac yn mwynhau pob munud. "Gobeithiaf drwy'r daith hon godi ymwybyddiaeth o waith y Mentrau Iaith ar draws Cymru yn ogystal a'r gwaith pwysig sydd wedi datblygu ym Mhatagonia yn ddiweddar.

"Mae'n mynd i fod yn sialens enfawr i mi wneud y daith. "Dwi ar y beic bob dydd bron, ond dwi erioed wedi gwneud taith more faith a hon o'r blaen, ond dwi'n ffyddiog y bydda i'n medru ei chwblhau hi."

Cafodd Menter Patagonia ei sefydlu yn 2007 ac ers Ebrill 2008 mae dau swyddog wedi bod yn gweithio yno i ddatblygu gweithgareddau a hybu'r Gymraeg yn y gymuned.

Mae cyfleoedd i bobl ifanc o Gymru fynd draw i wirfoddoli, fel mae criw o ugain wedi gwneud yn barod gyda'r Urdd.

Ychwanegodd Dafydd: "Gobeithiaf hefyd i dynnu sylw pellach at feicio fel camp cenedlaethol. "Mae llwyddiant beicwyr Cymru yn y gemau Olympaidd yn siŵr o ysgogi bobl o bob oed i neidio ar gefn eu beic a mynd amdani, er rhaid i mi ychwanegu, oeddwn i wedi bwriadu gwneud y daith maith hon cyn i Nicole a Geraint ennill aur yn Beijing."

Ychwanegodd; "Os gall boi cyffredin canol oed fel fi gael y fath wefr o feicio a mentro gwneud taith o'r math yma, mae'n rhaid bod gan y gamp rywbeth i'w gynnig i bawb."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý