Helen sy'n arwain y teithiau, mae hi'n arweinydd
Cerdded Nordig hyfforddedig sydd
hefyd yn gymwysedig ar gyfer cymorth cyntaf.
Mae'r teithiau yn cynnig gweithgaredd corfforol ysgafn tra'n cael hwyl a
chymdeithasu hefo'ch ffrindiau.
Dyma ddywedodd Nellie Hughes am y teithiau "Hwyl da iawn - wedi hen arfer hefo cerdded", dywedodd Beryl Almond hithau fod y sesiynau yn "llesol ac yn
fwynhad".
Mae'r polion ar gael yn y
Pafiliwn ac awgrymir eich bod yn gwisgo dillad ac esgidiau add as ar gyfer y tywydd.
Bydd y teithiau yn cymryd rhyw awr i'w cerdded ac maent yn addas i bawb.
Sicrhawyd nawdd i brynu'r offer gan 'Dewch i
Gerdded Cymru'.
Mae Menter Siabod hefyd wedi sicrhau rhagor o nawdd i hyfforddi rhagor o Arweinwyr Cerdded Nordig,
Os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddi fel a rweinydd yna cysylltwch â Helen.
|