´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Sara Berry Cerfio enw i'w hun
Ebrill 2005
Yn y flwyddyn 2000 Sara Berry, Cân yr Afon, Capel Curig, oedd un o'r crefftwyr ieuengaf i ennill ysgoloriaeth Brenhines Elisabeth, a'i galluogodd i ddilyn cwrs diploma ôl-radd llawn amser mewn cerfio pren addurnol yng Ngholeg Arlunio City & Guilds, Llundain.
Yr oedd y cwrs yn canolbwyntio yn bennaf ar ddealltwriaeth ac astudiaeth, technoleg a cherfio addurnol. Llynedd fe gwblhaodd Sara arfbais i Gymdeithas Gwerthwyr Pysgod, un o gymdeithasau hynaf y ddinas. Y mae arfbais Sir Thomas Stockdale (prif warden 2001/2) yn crogi yn neuadd y gymdeithas sydd ger pont Llundain.

Gwaith comisiwn arfbais Ysbyty Frenhinol Chelsea Y mae wedi ei naddu o bren pîn Rwsia ac wedi'i addurno yn gywrain mewn aur ac arian. Mae'rtraddodiad o gomisiynu arfbais i brif warden y gymdeithas hynafol hon yn dyddio yn ôl i 1690.

Yn fury diweddar comisiynwyd Sara gan Ysbyty Frenhinol Chelsea i gynhyrchu fersiwn o'i arfbais mewn pren. Cynhyrchodd Sara ddarn trawiadol mewn derw yn 5 troedfedd, 6 modfedd o uchder ac mae ar fur neuadd fawr yr ysbyty.

Uchelgais Sara yw rhedeg gweithdy a sefydlu ei hun fel cerfiwr yn adnewyddu darnau pren hanesyddol ynghyd â chynhyrchu a chynllunio.

Gobeithio y caiff Sara wireddu ei huchelgais a chael dod i ennill ei bywoliaeth yn ei milltir sgwâr. Yn y cyfamser mae'n sefydlu ei hun fel crefftwraig dalentog iawn yn Llundain.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý