´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Mynd am dro gyda'r Gwerinwr
Ionawr 2008
Cychwyn am dro bore Gwyl San Steffan a mhac ar fy nghefn a brechdan neu ddwy, ac wedi cerdded dros Ben Rhiw Saint, cyrraedd Blaen Eidda Uchaf a throi i'r chwith am beudy canol a beudy pellaf i chwilio am yr hen ffynnon.

Olion llygod dwr hwyrach yn y brwyn wedi cnoi y frwynen a gadal y canol neu'r gwynnin ar ol yn sypiau bach gwynion. Mae hyn yn digwydd yn aml yr adeg yma. Gwelais amryw o'r sypiau gwynion yma ar lan y Gonwy tu isa i Lyn Conwy yn y merddwr.

Troi'n ol ac i mewn i'r ty Blaen Eidda Uchaf ac eistedd wrth y bwrdd i gael paned a brechdan a dechrau sgwennu hyn o lith. Syllu allan drwy'r ffenest a Chudyll Coch (kestrel) yn disgyn ar y fedwen yn yr ardd tu draw i'r afon Eidda fechan, a hel meddyliau!

Y tair llofft a chegin a pharlwr a bwtri; grat a phopty a "boiler" i ddal dwr poeth. Gratiau yn y llofftydd a'r palwr. Syllu allan drwy ffenest ddi-wydr y gegin ac mae hi'n Ddolig a meddwl sut fath o ginio 'Dolig a gawsai'r hen deulu dri chwarter canrif yn ol.

Dim twrci'n saff ond gwydd mwy na thebyg a llysiau wedi eu codi o'r ardd. 'Roedd dwy ardd yno r'ochr draw i'r afon, a than mawn i dwymo'r popty. 'Roedd yno wastad gig y mylltyn (oen gwryw teir blwydd) wedi ei halltu a'i hongian o'r nenfwd fel cig moch i'w ddefnyddio fel bo'r angen, cig blasus rhyfeddol. Ychydig iawn o lo a ddefnyddid. Mawn oedd y tanwydd yn gyfan gwbl.

Tanwydd yr hen bentannau - a chlydwch
aelwydydd ein teidiau;
O'i gylch bu'r nyddau a'r gwau
A naws yr hen hwyr nosau! - JWJ

Mwy na thebyg 'roedd stof oel yma hefyd o gymorth at y coginio, a phwdin plaen cartre a saws gwyn o laeth y fuwch neu'r afr hwyrach, a lamp baraffin i oleuo'r nosweithiau tywyll; go brin eu bod mor gyntefig a defnyddio'r gannwyll frwyn, er bod hynny'n bosib hefyd dri chwarter canrif yn ol.

O babwyr y gwnai'r hen bobl - gannwyll
I gynnau yn siriol;
Yn ein hangen presennol
I ddu nos, a ddaw hi'n ol?

Mae'r gannwyll yn ddefnyddiol hyd heddiw pan ai'r trydan ar goll! Go brin y caent ffesant mae'n siwr gan iddynt gael digon o'r rheini am fod cipar yn y teulu a dau neu dri potsiar hefyd, ac erbyn Nadolig roedd tymor y grugieir drosodd. Roedd byw'n arafach i fyny yma yn ucheldir Cwm Eidda.

Ael y drum, ucheldir iach - y llwm baith
Lle mae byw'n arafach.

Deffro'r bore i glochdar y grugieir a phan fyddai'r niwl yn drwchus byddent yn un rhes ar do'r beudy neu'r hen dy a'r gath yn dod ac ambell un i'r ty. Roedd honno'n botsiar hefyd. Ar y twyllnos neu'r bore bach gwrando ar

Yr afr yn yr awyr
Yn brefu am ei myn;

chwedl R Williams Parry yn ei gerdd Cyffes y Bardd. Rwyf bron yn siwr mai son am y "giach" neu'r sneipen mae o, pan gwyd hon yn uchel i'r nen mae'n gollwng ei hun i lawr a'r ddwy bluen fechan ym mon ei chynffon fel propelor yn gwneud y swn tebyg i'r afr yn brefu. "Gafr y Gors" yw enw arall ar y (Snipe).

Mae rhyw ddwy awr wedi pasio fel gwynt a gallwn fyw yma'n hawdd! Mae yna goedlan yng nghefn y ty a llarwydd mawr hynafol yn llawn o flodau porffor yn y gwanwyn. Mae'n fan arbennig iawn i mi ac mae'n bechod ei weld yn araf adfeilio; ond bai'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw hynny!

Maent i fod i warchod "mannau hanesyddol arbennig a phrydferthwch naturiol". Un fantais yw ei fod yn lle tawel unig ac mae'r wennol yn nythu yn y gegin a'r ddylluan yn atic y llofft!

Hudolus oedd el ddelwedd - hen aelwyd
Wylaidd yr unigrwydd; (JWJ)

Cerdded i'w gwaith a cherdded i'r Capel (dair gwaith) a cherdded i'r ysgol yn y Llan gaea a'r haf ar bob tywydd a dod yn ol yn sych neu'n wlyb i ddiddosrwydd yr hen dy a'r tan mawn. Rhaid i minnau symud, mae'r dydd yn fyr ac rwyf am gychwyn am Dwr Gwyn a chorlan Hafnant ac anelu am darddiad yr Eidda a'r Hafnant ac wedyn am Lyn Brain Gwynion i "wylio beth a welaf". Yna i lawr heibio Gwely'r Lleidr i Ffridd Llech a galw heibio'r Garreg Orchest a'r dyddiad 1869 wedi ei naddu arni hi.

Dim llawer i'w weld yr adeg hyn o'r flwyddyn ond ambell sgwarnog a chudyll a Barcud Coch i gadw cwmpeini ac un neu ddau o fwncathod. Mae braidd ormod o'r rhain (bwncathod) o gwmpas a chigfrain hefyd.

Cerdded i lawr Ffridd Llech a Blaen Eidda'n dod i'r golwg eto. Buasai'n braf gweld mwg y mawn yn dod drwy'r corn simne unwaith eto, ond go brin debyg. Af yno eto cyn bo hir, mae fel Mecca i mi rhyw fodd ac mae'n braf cael dwyn atgofion yn y byd cythryblus yma heddiw.

Y nghalenig i a Blwyddyn Newydd Dda i bawb gan y Gwerinwr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý