´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Golygfa allan o'r ffilm Drover's Gold Clwb Hanes Seilo
Mai 2007
Neuadd Cymunedol Seilo
Ar Ebrill 27ain daeth criw da ynghyd i wrando ar sgwrs hwyliog gan Twm Elias, yn sôn am y porthmyn.
'Roedd yn gwaredu am mor bitw ydyw'r wybodaeth amdanynt; bron dim yn swyddogol wrth gysidro mor bwysig oeddynt ym myd amaeth yn ystod y canrifoedd. Yn wir, 'roedd ffyniant amaeth yn dibynnu arnynt.

Buont wrthi am amser maith, llwyth anadnabyddus heddiw, a'r gwaith yn cynyddu yn enfawr yn ystod y diwylliant diwydiannol, gyda miloedd o anifeiliaid yn cerdded pob cam o bellafoedd cefn gwlad i drefi diwydiannol yng Nghymru a Lloegr yn enwedig i Lundain. Parhaodd hyn tan dyfodiad y rheilffyrdd.

Roedd rhwydwaith o ffyrdd glas ar hyd y wlad, yn osgoi ffyrdd tyrpeg. Un ffordd bwysig o Lleyn oedd yn dod o Faentwrog dros Bwlch Carreg y Fran, i lawr i Cwm, ymlaen i Ysbyty Ifan heibio Bryn Crug cyn cysylltu â ffyrdd eraill yn arwain i'r de.

Byddai'r porthmyn yn codi eu hanifeiliaid o'r ffermydd o dan yr amod y buasent yn talu amdanynt wedi dychwelyd adref. 'Roedd enw am onestrwydd yn hanfodol - unrhyw amheuaeth ac roedd darfod ar fywyd fel porthmon.

Roedd y diadellau yn fawr - er enghraifft dros fil o ddefaid, rhai cannoedd o wartheg a gwyddau. Taith o rhwng 10 a 12 milltir i ddefaid a gwartheg ond dim ond tua 5 i 6 milltir i'r gwyddau. Soniodd am ddau frawd o Benmachno yn yr unfed ganrif ar bymtheg - y ddau yn gloff ond yn medru gyrru am 5 i 6 milltir y dydd gyda'r gwyddau.

Roedd rhaid pedoli gwartheg - giamocs mawr ar y diwrnod! Er mwyn diogelu traed gwyddau gyrrwyd hwy try pÅ·g cynnes ac wedyn dros raean neu dywod. Byddai'r gwartheg ar y ffordd am rhyw dair wythnos i Lundain, mwy i wyddau a moch.

Am safon yr anifeiliaid? Digon tenau o gymharu a heddiw, yn ôl yr ychydig luniau sydd ar gael, ond byddant yn cael eu pesgi ar borfeydd bras ar ddiwedd y daith; cyn wynebu'r cigyddion.

Roedd dychwelyd efo'r arian yn daith beryglus a lladron ym mhob man. Er mwyn diogelu'r symiau mawr o arian ym meddiant y porthmyn, i fyny i fil o bunnoedd neu rhagor, sefydlwyd banciau. Banc y Ddafad Ddu yn un enwog, a Banc y Ceffyl Du, sydd yn dal mewn bod sef Lloyds TSB.

Llwyddodd nifer o'r porthmyn i ddod yn gyfoethog iawn ond roedd y bywyd yn un tu hwnt o galed.

Diolchwyd i Twm gan Iola, am sgwrs ddoniol a hynod o ddiddorol, yn cynnwys nifer o sleidiau.

Bydd y cyfarfod nesaf ar Mai 25, pan fydd Colin Thomas gynt o'r siop iechyd yn sôn am lysiau llesol. Croeso cynnes i bawb.

Ar y 30ain o Ebrill yn Seilo daeth Paul W akeley, gynt o Benmachno atom i sôn am ddaearyddiaeth yr ardal.

Mae hanes y creigiau yng Ngogledd Cymru yn un cymhleth iawn. Maent yn rhai o'r creigiau hynaf yn y byd yn dyddio 'nol i dros 600,000,000 o flynyddoedd! Yn ein hardal ni y bu dechrau hanes y creigiau yn wyddonol ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif ac am hynny mae enwau Cymreigaidd iawn ar yr holl greigiau cynnar fel Pre Cambrian, Cambrian, a.y.b.

Yn wir, y mae creigiau ein gwlad wedi dylanwadu'n gryf ar ein hanes gyda arfau cerrig o Benmaenmawr wedi eu darganfod ar y cyfandir, a mwyni copr, plwm ac aur o Oes y Pres hyd at yn ddiweddar, heb sôn am lechi a glo - ac olew a nwy yn y dyfodol!

'Roedd gan Paul doreth o luniau a mapiau er mwyn egluro ei sgwrs, a mwynhawyd y noson yn fawr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý