大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Jeremy a minnau yn Vava'u Anturiaethau'r M么r Tawel - (2)
20 Hydref 2003
Daeth dechrau pennod newydd yn ein hanes wrth i'r Sh'khinah adael Nuku'alofa gyda saith aelod newydd ar ei bwrdd. Y rhain oedd Dona o Palau, Marica o Fiji, Willy a Nathan o Tonga, Brad, Ben a Brianne o Unol Daleithiau'r America a Jeremy a finnau.
Mae yna 170 o ynysoedd yn Nheyrnas Tonga, wedi eu rhannu'n dri grwp, sef Tongatapu, Ha'apai a Vava'u, gydag ynys Niuafo'ou a Niuatoputapu i'r gogledd.

Mae yna bobl yn byw ar 36 o'r ynysoedd hyn efo poblogaeth o thua 97,500. Hwyliasom drwy'r tri grwp a chael croeso, ein hymweliad a rhai ynysoedd wedi ei drefnu ond ddim a rhai eraill.

Cawsom laweroedd o bobl yn camu ar fwrdd y Sh'khinah a chael hwyl yn mynd a grwpiau o bobl ieuainc a hyn am fordeithiau byrion. Roeddem ar un o ynysoedd Ha'apai ar yr 11eg o Fedi 2001.

Bu'n rhaid galw am gymorth ar y radio un noson stormus wrth geisio cael mynediad trwy'r riff i ynys Niuatopatapu.

Daeth pysgotwr, a oedd ar y pryd yn cael paned ar un o'r cychod a glywodd ein cri am gymorth, allan yn ei gwch cyflym a'n hebrwng i mewn. Milo a Kimberley o Ganada a glywodd lais Jeremy ar y radio, a hwythau yn forwyr profiadol a ddaeth yn awyddus i hwylio'r Sh'khinah y flwyddyn ganlynol.

Enw arall ar yr ynysoedd oedd New Potatoes a daeth criw o ieuenctid ar fwrdd y cwch i rannu cinio efo ni. Ni allwn beidio a syllu ar y mochyn bach cyfa' wedi'i rostio oedd yn gorwedd mewn coolbox. Ar yr ynys hon hefyd aeth tair ohonom i olchi dillad y criw yn iard gefn cartref y rheolwr banc a'i wraig. Cawsom hwyl ond rhaid imi gyfaddef y buasai'n dda inni fod wedi cael gafael ar mangl Mair.

Treuliasom dair wythnos wedyn yn harbwr Apia, Gorllewin Samoa. Yno roedd R.L. Stevenson wedi ei gladdu, awdur nofelau megis Robinson Crusoe a Kidnapped.

Roedd ei gartref yn dal yno gyda chyfle i ymwelwyr fynd i weld y ty. Tair awr allan o Apia ar y m么r daeth y propsiafft yn rhydd o'r injan ac fe'i arbedwyd rhag disgyn i'r m么r wrth iddo drawo'r llyw. Cymerodd wyth awr wedyn i hwylio'n 么l am yr harbwr drwy'r riff gwrel.

Roedd y Sh'khinah wedi ei phaentio'n las tywyll a gwyn. Y tu mewn roedd tair ystafell ymolchi, rhewgell ac oergell a pheiriant i droi dwr y m么r yn iawn i'w yfed.

Roedd lle i 12 gysgu arni gyda dau fad achub ar gyfer chwech yr un. Wrth hwylio roedd yn rhaid gafael yn dynn rhag cael eich taflu o gwmpas, ac roedd stof goginio wedi ei gwneud yn bwrpasol fel ei bod yn aros yn wastad hyd yn oed pan oedd y cwch ar i ochr. Roedd yn bleserus ar y m么r pan oedd yn dawel, gyda dim ond yr hwyliau'n cael eu defnyddio i symud y cwch, o'i gymharu 芒 phan ddefnyddiwyd y modur hefyd.

Llwyddwyd i drwsio'r propsiafft ac aethom am ynysoedd Fiji, lle cawson nofio mewn dwr ffres. Roedd yn wyrdd iawn yno gyda digon o dyfiant. Yn Suva, Fiji ffarweliodd y criw efo Ben a oedd yn mynd adref o achos marwolaeth yn y teulu.

Ar ynys Ngau gwelsom fochyn byw ond llonydd, wedi ei rwymo yn cael ei gario i angladd yn gyfraniad un teulu at y wledd angladdol. Roedd gan bob teulu fochyn yn pesgi i raddau helaeth ar ynysoedd Tonga, Fiji a Samoa a oedd o fudd iddynt ar gyfer achlysuron fel priodasau ac angladdau lle y disgwylir i bob teulu gyfrannu tuag at y bwyd.

Rwy'n cofio gweld Willy yn sgwrio'r ffendars gwyn-wedi-troi'n ddu efo Jif (Cif erbyn hyn). Roedd y clustogau mawr yma yn arbed y cwch rhag mynd yn erbyn cwch aral, ac mi roedd yn gamp eu rhoi yn y lle iawn bob tro. Rwy'n cofio hefyd trwsio rhwyg yn yr hwyl ar 么l i Brad fod yn gwneud tyllau ar gyfer y pwythau efo dril.

Roedd y daith yn 么l am Tonga yn hir, ac wedi cyrraedd Nuku'alofa bu raid inni roi'n bwydydd i swyddogion y tollau. Roedd rhai ffres yn dod yn eu lle a chawsom barti i ddathlu glanfa ddiogel. Roedd y bwyd yn blasu'n dda. Roeddwn yn falch o gael y cyfle wedyn i hedfan yn 么l i Christchurch yn hytrach na threulio deng niwrnod ar y m么r.

Roeddem wedi ffarwelio efo Dona, Marcia, Willy a Nathan yn Tonga a chyda Brad a Brianne a hwyliodd yn 么l i Seland Newydd. Cawsom ychydig o ddyddiau efo Lyell a Val ar eu fferm a gweld, ymysg pethau eraill, eu sied gneifio. Roedd yna le i'r ddafad wedi ei chneifio fynd trwy ddrws y tu 么l i'r cneifiwr. Cofiais fy mod wedi gweld hyn o'r blaen yn y ffilm, The Thorn Birds . Roeddwn wedi sylwi ar hyn am ei fod yn wahanol i'r hyn roeddwn i wedi ei weld, sef y defaid yn cael eu gollwng ymlaen ar draws y lapwyr gwlan a'r badell neu dun pitsh.

Ymwelasom ag 14 o ynysoedd gan hwylio ar draws 5500 o filltiroedd, gan ymweld 芒 chymunedau, ysgolion ac un carchar a chael y cyfle i siarad ar raglen deledu yn Samoa. Roedd trigolion yr ynysoedd yn gantorion da ac yn bobl lletygar iawn. Pan ddywedais fy mod yn Gymraes ar un ynys yn Fiji, cyfeiriodd ein gwestai ni yn falch iawn at lun o'u t卯m rygbi ym Mharc yr Arfau.

Gwanwyn oedd hi yn Seland Newydd wrth ffarwelio a hedfan adre i Gymru dair wythnos cyn y Nadolig.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy