Y canlyniadau terfynol oedd: laf Clwb Dyffryn Nantlle 350 2ail Ysbyty Ifan 332 3ydd Llanrwst 260 4ydd Porthdinllaen 176 5ed Rowen 66Thema y flwyddyn hon oedd y Gorllewin Gwyllt. Bu cystadlu brwd dwy'r dydd ac ambell i un yn debyg iawn fel y tasant wedi dod o'r gorllewin gwyllt. Cafwyd amrywiaeth o gystadlaethau fel dawnsio gwerin, codi wigwam, ymladd clustogau dros ddŵr, cneifio, tynnu rhaff a rodeo. Cafodd y clwb gryn lwyddiant gydag ambell i darian yn dod adref sef Tlws Goffa Huw Rowlands (Seren Wib), Tancard Bob Parry (Cneifiwr Gorau), Hefin Jones, Cwpan Barhaol R E Lister (Cneifio), Tarian Goffa Thomas Selwyn Roberts (Gwaith Coed), Ger Gwpan y Garth (tynnu rhaff merched), Cwpan Goffa y diweddar George Edwards (tynnu rhaff bechgyn), Cwpan Barhaol yr Helfa (ail orau yn yr adran hyn), Tarian Brwdfrydedd UCA (Clwb buddugol yn ôl cyfartaledd aelodaeth). Hoffwn ar ran y clwb ddiolch o galon am bob cymorth a gawsom tuag at y rali, gan rieni a ffrindiau y clwb mae'r aelodau yn gwerthfawrogi eich cymorth a'ch cefnogaeth bob amser. Mae'r enwau yn ormod i enwi pawb ond DIOLCH i chwi oll. Ond fe garwn ddiolch i C T Roberts, y Fron, Ysbyty Ifan am fod mor hael a noddi ein crysau newydd, roedd pawb yn edrych yn hynod o smart ar y dydd. Gyda'r nos cafwyd dawns yn ffarm Garthmyn gyda Frizbee yn perfformio. Bu cryn ddathlu gyda'r nos a pawb yn mwynhau - o'r ifanc i'r rhai hŷn ohonom.
|