´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Swyddfa'r Fenter Iaith yn Llanrwst Hyrwyddo'r Gymraeg yn lleol
Medi 2004
Llythyr gan gyfieithydd cymunedol newydd Menter Iaith Conwy, Alwen Vaughan, yn egluro sut y gallwch fanteisio ar wasanaeth cyfieithu'r fenter.

Annwyl ddarllenwyr yr Odyn

Yn ddiweddar fe'm penodwyd yn Gyfieithydd Cymunedol gyda Menter laith Conwy. Golyga'r swydd y byddaf mewn cysylltiad agos gyda'r gymuned a gwasanaethau gwirfoddol.

Oherwydd hyn teimlaf ei bod hi'n bwysig eich bod chwi fel cyhoedd yn ymwybodol o'r gwasanaeth newydd hwn a manteisio ar y cyfle o'i ddefnyddio.

Cyn i mi fynd ymhellach hoffwn esbonio i chwi beth yw gwaith y Fenter Iaith, a'i swyddogaeth o fewn y gymuned. Mae'r Fenter yn gyfran o rwydwaith cenedlaethol sef M.L.C (Mentrau laith Cymru).

Pwrpas y mentrau hyn yw hyrwyddo'r Gymraeg ymhob agwedd o'r gymdeithas, gan sicrhau ei bod hi'n iaith weledol a chlywedol amlwg o fewn ein cymdeithas.

Y Fenter ei hun felly yw'r gwreiddyn, ond bod y gwasanaeth cyfieithu hwn fel cangen yn egino o'r gwreiddyn hwnnw. Gyda cymorth y gwasanaeth newydd hwn y dyhead yw y bydd y mudiadau gwirfoddol yn gallu cynnig gwasanaethau dwyieithog i'r cyhoedd, a'r canlyniad gobeithiol yw y bydd yna gynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn y sector gwirfoddol.

Mae 29.4% o drigolion Sir Conwy yn gallu siarad Cymraeg, dros un ym mhob 4, felly mae'n hanfodol fod mudiadau gwirfoddol yn cynnig gwasanaeth dwyieithog i'r cyhoedd. Rydym hefyd yn gobeithio bydd cyfieithu cymunedol yn codi awydd ar y Cymry di-Gymraeg i fynd ati i'w dysgu, neu i'r rhai hynny sydd wedi colli gafael arni i fynd ati i'w gloywi a magu'r hyder i'w siarad unwaith eto.

Mae 27.4% o drigolion Sir Conwy yn gallu darllen Cymraeg, ac wrth ei gweld hi ar waith yn gyhoeddus byddant yn sylweddoli ei bod hi'n iaith fyw, weinyddol a defnyddiol sydd yn agor drysau tuag at fanteision a chyfleon.

Mae Menter Iaith Conwy yn barod i gynnig gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig hyd at 100 o eiriau yn rhad ac am ddim. Ar gyfer sector gwirfoddol bydd y Fenter yn codi tâl o £10 am gyfieithu mil o eiriau. Ac ar gyfer y sector gyhoeddus bydd y gost yn £50 am gyfieithu mil o eiriau. Yn ogystal mae modd i chi logi offer cyfieithu ar y pryd.

Am ragor o fanylion cysyllter â mi yn swyddfa Menter Iaith Conwy ar 01492 642796.

Yn gywir

Alwen Vaughan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý