Roedd y Chwedlau yn canu yn y cyngerdd hwnnw, a hyfryd oedd eu clywed ddydd Llun Calan Mai oddi ar y llwyfan yn Theatr y Rhyl mewn recordiad a wnaed ar y noson ar gyfer y ´óÏó´«Ã½.
Grŵp enwog ar y pryd o Benmachno oedd y Chwedlau, gydag Elizabeth May yr unig ferch; hi a Guto oedd y prif leisiau, a'r offerynwyr oedd Gareth Wyn, James Roberts, Leslie Jones a Gareth Jones.
Roedd rhai o enwogion byd pop Cymru yn ymddangos yn y cyngerdd hwnnw - Tony ac Aloma, Huw Jones, Meic Stevens, Idris Charles a Dafydd Iwan, felly addas iawn oedd iddynt gael rhannu llwyfan gyda'r Chwedlau o Benmachno yn y Rhyl yn '69!
Un gân a glywyd o'r darllediad ar Fai 1af er iddynt ganu dwy gân; mae'r artistiaid i gyd wedi cael CD o'r cyngerdd erbyn hyn i gofio'r achlysur.
Diolch i John Hardy am fynd â llawer iawn iawn ohonom yn ôl i'n hieuenctid wrth wrando ar Fai 1af!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |