Ar Ebrill 12fed trefnwyd taith gerdded noddedig gan yr Is-Bwyllgor Llety a Chroeso. Wrth lwc, roedd yn ddiwrnod sych a braf i fwynhau'r daith o amgylch Llyn Crafnant.Daeth dros hanner cant o gerddwyr ynghyd a chafodd pawb gyfle i fwynhau'r sgwrsio, y cerdded, y cwmni a'r byd natur. Gwnaethpwyd elw sylweddol o 拢1,508 a mawr yw diolch Swyddogion y Pwyllgor i bawb a gefnogodd y daith gerdded mewn unrhyw fodd. Ar ddechrau'r daith croesawyd oddeutu hanner cant a phump o gerddwyr gan Ann Jones, Cadeirydd y Pwyllgor. Roedd yn braf cael cwmni plant, rhai brodyr a gwragedd ifanc sydd yn aelodau o'r Pwyllgor.
|